Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd cyfrwng Cymraeg

Rydym yn anelu at gryfhau gwasanaethau fferyllol yn yr iaith Gymraeg drwy ddatblygu ein darpariaeth fel unig ddarparwyr y pwnc ar lefel Addysg Uwch yng Nghymru.

Mae parhau i ehangu a datblygu’r ddarpariaeth yma yn hanfodol i godi ymwybyddiaeth fferyllwyr y dyfodol am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y maes iechyd yng Nghymru.  Mae hefyd yn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau rheng flaen yn ateb anghenion gofal siaradwyr Cymraeg a’u teuluoedd neu ofalwyr i ateb gofynion Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau'r Iaith Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Gofalu am bobl fel unigolion yw diben y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol... Rhaid i hunaniaeth ddiwylliannol a’u hanghenion ieithyddol fod wrth wraidd hyn oherwydd mae’n rhan hanfodol o ofal o ansawdd da a safonau proffesiynol uchel.

Mwy na geiriau: Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru

Ar leoliad

Prif ffocws maes fferylliaeth yw anghenion y cleifion a lluniwyd y radd i adlewyrchu hyn. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys pynciau gwyddonol craidd a therapiwteg wedi’u hintegreiddio gydag ymarferion clinigol. Defnyddir ystod o ddulliau dysgu gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol ar gyfer y ddarpariaeth yma.

Yn ystod y cwrs bydd y gwaith academaidd yn y Brifysgol yn cael ei fireinio ar leoliad sef yn y gymuned, mewn ysbytai a lleoliadau eraill. Mae’r cyfle yma i gyfathrebu a rhyngweithio gyda chleifion a phroffesiynau iechyd arall ar leoliad yn rhan hanfodol o’r dysgu. Mae hefyd yn adlewyrchiad cywir o'r proffesiwn a’r hyn sydd yn ofynnol i lwyddo ynddo. Os yn bosibl, rhoddir cyfle i fyfyrwyr gwblhau’r cyfnodau ar leoliad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwyliwch fideo yn Gymraeg o fyfyrwyr a darlithwyr y meysydd iechyd yng Nghaerdydd yn trafod buddiannau defnyddio'r iaith yn eu gwaith.

Manteision dwyieithrwydd

Wrth baratoi ar gyfer eu gyrfa, mae’r cyfle i astudio elfennau o’r cwrs fferylliaeth drwy’r Gymraeg yn gallu bod yn fanteisiol iawn i’r darpar-fferyllydd. Mae gweithredu'n broffesiynol yn gwbl ddwyieithog, yn gallu gwella posibiliadau cyflogadwyedd Hefyd, byddwch yn ateb gofynion y gwasanaeth iechyd drwy sicrhau bod cleifion Cymraeg eu hiaith yn derbyn y driniaeth orau posibl yn eu mamiaith.

Ym Mhrifysgol Caerdydd cynigir gradd MPharm pedwar blynedd. Mae’r radd wedi ei hachredu gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (General Pharmaceutical Council) fel llwybr dilys ar gyfer mynediad i’r proffesiwn. Mae’r Ysgol Fferylliaeth heb os yn un o’r goreuon yn y DU yn y tablau cenedlaethol. Felly mae gradd academaidd gryf ac enw da'r Ysgol yn helpu ein myfyrwyr i sicrhau dyfodol disglair yn eu proffesiwn.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Tiwtor Cyfrwng Cymraeg:

Wyn Davies