Ewch i’r prif gynnwys

Ein cyfleusterau

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gwrs, byddwch yn fyfyriwr ffurfiol o’r Brifysgol, a byddwch yn gallu defnyddio nifer o gyfleusterau’r Brifysgol.

Cael eich cerdyn adnabod

Fel myfyriwr rhan-amser ar gwrs achrededig gallwch gael cerdyn adnabod (ID).

I wneud cais am eich cerdyn myfyriwr, anfonwch gopi o'ch ebost i Gadarnhau Ymrestru ynghyd â llun ohonoch eich hun i librarymembership@cardiff.ac.uk

I wneud cais am gerdyn myfyrwyr, llenwch y ffurflen isod, ei hatodi i ebost a'i hanfon atodwch ef i e-bost ynghyd â ffotograff ohonoch chi'ch hun at

Bydd staff y llyfrgell yn cysylltu â chi unwaith y bydd eich cerdyn yn barod i'w gasglu o Lyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, caniatewch 48 awr i'ch cerdyn gael ei gynhyrchu. Os nad ydych yn gallu casglu eich cerdyn o'r llyfrgell yna rhowch wybod i staff y llyfrgell a fydd yn trefnu i'ch cerdyn gael ei bostio.

Am wybodaeth bellach cysylltwch librarymembership@cardiff.ac.uk

Llyfrgelloedd a chyfleusterau TG

Gallwch ddod o hyd i Ganllawiau ar-lein Croeso i'r Llyfrgell ar gyfer myfyrwyr Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) yma.  Mae'r rhain yn cynnwys manylion ar sut i gael mynediad at ein gwasanaethau yn ystod COVID-19.

Tra byddwch yn astudio byddwch yn gallu defnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol ac yn gallu sefydlu cyfrif i ddefnyddio'r rhwydwaith cyfrifiadurol.

Llyfrgelloedd

Mae catalog y llyfrgell ar gael ar-lein a gallwch chwilio am adnoddau o lyfrgelloedd ym mhob rhan o’r Brifysgol. Gallwch hefyd ddefnyddio terfynellau sydd wedi'u lleoli ym mhob llyfrgell i chwilio drwy gatalog y Brifysgol a chatalogau llyfrgelloedd eraill. Gallwch hefyd edrych ar eich cyfrif llyfrgell ac archebu llyfrau ar-lein.

Mae llyfrgelloedd hefyd yn cynnal gweithdai sgiliau ac mae croeso i chi ddod i’ch helpu i wneud y gorau o’r gwasanaeth.

Mynediad cyfrifiadurol

Fel myfyriwr ar gwrs achrededig byddwch yn cael cyfrif cyfrifiadur. Pan fyddwch yn mewngofnodi i system y Brifysgol gyda’r cyfrif hwn, y gellir ei wneud ar y campws neu gartref, byddwch yn gallu cael gafael ar ystod lawn o gymwysiadau a meddalwedd, gan gynnwys:

  • e-bost a chalendr
  • catalog ar-lein y llyfrgell
  • ein hamgylchedd rhith-ddysgu ar-lein
  • cyhoeddiadau a newyddion
  • cymunedau ar-lein.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gyrchu eich ebyst a Dysgu Canolog, ein Hamgylchedd Rhith-Ddysgu (VLE).

Cefnogaeth TG

Mae Desg Gwasanaethau TG yn cynnig cefnogaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae ar gael i ateb galwadau, delio â negeseuon ebost a rhoi cymorth rhwng 09:00 a 17:00. Y tu allan i'r oriau hyn, byddwch yn gallu cael cymorth a chefnogaeth sylfaenol ar gyfer eich ymholiadau TG dros y ffôn.

Cymorth TG