Ewch i’r prif gynnwys

Rhoi adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd ar eich profiad a byddem yn eich annog i gysylltu â ni i roi gwybod a oes unrhyw beth y gallwn ei wella.

Gwerthusiad

Gwahoddir myfyrwyr i lenwi gwerthusiad cwrs ar-lein pan fydd eu cwrs yn gorffen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â gwerthusiadau cwrs, cysylltwch â cpefeedback@caerdydd.ac.uk

CPE Feedback email

Gwneud cwyn

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu addysgu o ansawdd uchel i chi mewn amgylchedd dysgu o ansawdd uchel.

Os hoffech wneud cwyn am unrhyw agwedd ar eich profiad dilynwch weithdrefn gwyno'r brifysgol. Cyflwynwch eich cwyn yn Gymraeg neu Saesneg.

Newid eich manylion personol

Os bydd eich manylion personol yn newid tra byddwch yn astudio gyda ni, llenwch y ffurflen hon i roi gwybod i ni a gallwn ddiweddaru eich manylion.