Ewch i’r prif gynnwys

Athro arloesol yn ennill Medal Eddington

11 Ionawr 2019

Bernard Schutz

Mae Athro o Brifysgol Caerdydd wnaeth ddarganfod sut i fesur ehangiad y bydysawd wedi'i anrhydeddu gan y Gymdeithas Seryddol Frenhinol (RAS).

Bydd Bernard Schutz yn cael Medal Eddington am 'archwiliad â theilyngdod rhagorol mewn astroffiseg ddamcaniaethol.'

Bu'r Athro Schutz yn arloesi'r arfer o astudio data o synwyryddion tonnau disgyrchiant ymyriadurol, a gosododd y llwybr ar gyfer piblinellau dadansoddi sydd bellach wrth wraidd y broses o chwilio am donnau disgyrchiant drwy Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LIGO) ac ymyriadur VIRGO.

Mewn papur ym 1986, dangosodd yr Athro Schutz, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sut y gellir defnyddio tonnau disgyrchiant i fesur y gyfradd ehangiad cosmig.

Ei ddadl oedd bod tonnau disgyrchiant yn sgîl gwrthdrawiad (uno) rhwng dwy seren niwtron neu dyllau du yn "seirenau safonol" sy'n cynnwys gwybodaeth am eu pellter o'r Ddaear.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, gwireddwyd ei ddamcaniaeth pan gafodd tonnau disgyrchiant ac electromagnetig eu canfod gan LIGO. Yn 2017, teithiodd yr Athro Schutz i Stockholm i wylio ei fentor a chyn-oruchwyliwr PhD, Kip Thorne, yn rhannu Gwobr Nobel am ei waith ar LIGO.

Cafodd y canfyddiad nodedig ei wneud o ganlyniad i gyfraniad sylweddol tîm o ymchwilwyr yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Yn ôl yr Athro Schutz: "Rydw i wrth fy modd o gael y fedal Eddington. Mae'n hyfryd cael y gydnabyddiaeth hon gan fy nghyd-seryddwyr ac astroffisegwyr am y pwysigrwydd y mae'r gwaith a wnes dros 30 mlynedd yn ôl wedi ei gyflawni heddiw.

Pan sylweddolais ym 1986 y gallai tonnau disgyrchiant ein helpu i fesur pellteroedd ar draws y bydysawd, cyfradd ei ehangiad a'i oed, cefais fy argyhoeddi bod yn rhaid adeiladu'r synwyryddion ar gyfer y tonnau hynny, a'u rhoi ar waith. Bûm yn gweithio tuag at y nod hwnnw byth ers hynny.

Yr Athro Bernard Schutz Darlithydd

Mae'r Athro Schutz yn ymuno â chorff disglair o astroffisegwyr gafodd yr un clod, gan gynnwys yr Athrawon Stephen Hawking a Roger Penrose (1975). Enwyd y wobr ar ôl y seryddwr a'r mathemategydd o Loegr, Syr Arthur Eddington, wnaeth gynnal y prawf empirig cyntaf o theori Einstein. Fe'i dyfarnwyd yn gyntaf ym 1953 i'r cosmolegydd Georges Lemaître, wnaeth gynnig y syniad bod y bydysawd yn ehangu ar sail ddamcaniaethol.

"Mae'r fedal yn fwy na chydnabyddiaeth am waith a gynhaliwyd 30 mlynedd yn ôl," meddai'r Athro Schutz, fydd yn cael y wobr yn y Cyfarfod Seryddol Cenedlaethol ym mis Gorffennaf.

"Mae'r pleser o gael y gydnabyddiaeth hon yn wobr am dreulio'r rhan helaeth o'm gyrfa'n cyrraedd y nod o agor maes seryddiaeth tonnau disgyrchiant. Mae cael y fedal 100 mlynedd ar ôl i Eddington ei hun roi prawf hollbwysig o ddilysrwydd damcaniaeth Einstein yn golygu bod hon yn anrhydedd arbennig yn wir."

Cafodd yr Athro Schutz ei eni a'i addysgu yn UDA, a chafodd ei PhD mewn Ffiseg o Sefydliad Technoleg Califfornia ym 1971. Yn dilyn gwaith ôl-ddoethurol yng Nghaergrawnt gyda Stephen Hawking a Martin Rees, a gwaith pellach ym Mhrifysgol Yale, daeth yn ddarlithydd yn yr hyn oedd yn Goleg Prifysgol Caerdydd ym 1974. Ym 1995, ac yntau'n Athro erbyn hynny, symudodd i'r Almaen fel un o'r ddau gyfarwyddwr oedd yn sylfaenwyr ar Sefydliad Max Planck ar gyfer Ffiseg Ddisgyrchol (Sefydliad Albert Einstein).

Ar ôl ymddeol o'r swydd honno yn 2014, dychwelodd i Brifysgol Caerdydd fel Athro Ffiseg a Seryddiaeth, a daeth yn gyfarwyddwr cyntaf Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data y Brifysgol. Mae'n Athro Cynorthwyol yn Sefydliad Technoleg Georgia yn UDA.
Mae corff gwaith yr Athro Schutz dros 40 mlynedd yn parhau i ddylanwadu ar gyfeiriad astudiaethau astroffiseg at y dyfodol.  

"Dim ond y dechrau yw'r arsylwadau rydym wedi eu gwneud hyd yn hyn", ychwanegodd.

"Wrth i synwyryddion wella, ac wrth i ni fynd i'r gofod gyda thaith Antenna Gofod Ymyriadur Laser (LISA) Asiantaeth Gofod Ewrop, byddwn yn defnyddio'r teclyn hwn i ateb llawer o gwestiynau am hanes y bydysawd."

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.