Ewch i’r prif gynnwys

Ffisegwyr Caerdydd yn dathlu llwyddiant Nobel

11 Ionawr 2018

Cardiff physicists celebrate Nobel success
L-R: Professor David McClelland, Australian Nation University; Nobel Prize laureates Rainer Weiss, Barry Barish and Kip Thorne; Professor Bernard Schutz, Cardiff University.

Mae aelodau o Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol Prifysgol Caerdydd wedi teithio i Sweden i ddathlu gydag enillwyr Gwobr Ffiseg Nobel eleni.

Rhoddwyd yr anrhydedd fwyaf ym maes ffiseg i Kip Thorne, Rainer Weiss a Barry Barish am eu cyfraniadau at ddarganfod tonnau disgyrchol am y tro cyntaf erioed – darganfyddiad pwysig iawn a oedd yn bosibl o ganlyniad i gyfraniad sylweddol ymchwilwyr yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.

Cyflwynwyd y gwobrau i enillwyr y wobr Nobel mewn seremoni arbennig yn Stockholm gan Frenin Sweden.

Cafodd tonnau disgyrchol – sef crychau mân mewn gofod-amser a allyrrir gan ddigwyddiadau cosmig grymus –  eu canfod am y tro cyntaf gan dîm yr Arsyllfa Tonnau Disgyrchol Ymyriadur Laser (LIGO) yn 2016, gyda chymorth dros 1000 o wyddonwyr o dros 80 o sefydliadau.

Fe wnaeth ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd osod y sylfeini ar gyfer sut i ganfod y tonnau disgyrchol, drwy ddatblygu algorithmau a meddalwedd newydd a ddaeth yn declynnau safonol ar gyfer canfod y signalau, sy'n anodd iawn eu canfod.

Roedd yr Athro Bernard Schutz o Brifysgol Caerdydd yn bresennol yn y digwyddiad, a gofynnwyd iddo roi darlith ynglŷn â'r wyddoniaeth y tu ôl i donnau disgyrchol yn Stockholm.

"Roedd bod yno yn anrhydedd ac yn bleser, ac roedd cael fy ngwahodd gan ffisegwyr Stockholm i roi darlith am y wyddoniaeth yr oedd y wobr yn ei chydnabod yn fraint ychwanegol," meddai'r Athro Schutz.

"Ar ben hynny, roedd gwylio fy ngoruchwyliwr a mentor PhD, Kip Thorne, yn derbyn Gwobr Nobel yn bleser arbennig. Rwy'n cofio Kip yn ymweld â Chaerdydd ym 1987 ar gyfer y gynhadledd ryngwladol gyntaf erioed ynglŷn â sut i ddadansoddi data ar gyfer y synwyryddion a gynlluniwyd ar y pryd, un o'r nifer fawr o rannau o'r gwaith canfod yr oedd ganddo ddiddordeb dwfn a chreadigol ynddi."

Ers i donnau disgyrchol gael eu canfod am y tro cyntaf yn 2015, mae synwyryddion yn UDA a'r Eidal wedi eu canfod nifer o weithiau, sy'n rhoi cipolwg digynsail i ni i rai o ddigwyddiadau mwyaf dirgel y Bydysawd.

Cyn i'r synwyryddion ddechrau eu trydydd cyfnod arsylwi yn ddiweddarach eleni, mae'r Athro Stephen Fairhurst, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, wedi cael ei benodi'n Ddirprwy Gadeirydd ar gyfer Pwyllgor Rhaglen LIGO.

Fel rhan o'r rôl, bydd yr Athro Fairhurst yn helpu i lywio blaenoriaethau ymchwil Prosiect Gwyddonol Cydweithredol LIGO.

Dywedodd: "Mae rhoi'r wobr Nobel i arloeswyr LIGO yn cydnabod cychwyn maes seryddiaeth tonnau disgyrchol.  Yr her nawr yw cynllunio ar gyfer y dyfodol, a sicrhau bod synwyryddion yn gwella o hyd a'n bod yn arsylwi ar ffenomena astroffisegol newydd."