Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae cangen Caerdydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am ddatblygu hyfforddiant a chyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol.
Ein nod yw ysbrydoli ac annog myfyrwyr a staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg drwy adeiladu system addysg a hyfforddiant dwyieithog sy'n agored i bawb.
Rydym yn cydweithio â Deon y Gymraeg, Yr Academi Gymraeg ac Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr dros y Gymraeg, Cymuned a Diwylliant Cymru, i adeiladu gweithlu dwyieithog a meithrin amgylchedd Cymraeg cynhwysol a chadarnhaol i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dewis o hyd at 80 o gyrsiau
Mae gennym hyd at 80 cwrs mewn 12 maes sydd ar gael yn rhannol neu'n gyfan gwbl yn y Gymraeg
Cyfleoedd i chi
Gallwch glywed am yr amrywiaeth o gyfleoedd i astudio neu ymgysylltu â'r Gymraeg, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau cymdeithasol y gangen
Datblygu eich sgiliau iaith
Gallwn eich helpu i astudio ar gyfer ein Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg i wella eich hyder a'ch sgiliau ieithyddol
Datblygu sgiliau ar gyfer y gweithle
Rydym am i'n graddedigion allu defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a chyfrannu'n ddwyieithog at fywyd economaidd, cymdeithasol, a diwylliannol Cymru
Bod wrth galon y Gymru fodern
Caerdydd yw cartref y Senedd, Llywodraeth Cymru, y BBC, ITV, yn ogystal â nifer o sefydliadau cenedlaethol eraill
Ehangu addysgu ac ymchwil
Rydym am cynyddu gallu ein staff i gryfhau hunaniaeth ac arweinyddiaeth Gymraeg y brifysgol
Cynnig Caerdydd
Rydym yn sefydliad Cymreig sydd â safbwynt byd-eang, ac mae ein hiaith wedi'i blethu i wead ein sefydliad. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg yn ein holl weithgareddau er mwyn sicrhau ei bod wedi'i integreiddio i'n hunaniaeth, gweithrediadau, ein cymunedau, a'n bywyd o ddydd i ddydd mewn ffordd sy'n cynnwys ein holl staff a myfyrwyr.
Mae'r fideo canlynol yn cynnwys cerdd a chyfansoddwyd gan Osian Rhys Jones, a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 am ei gerdd Yr Arwr/Arwres a chaiff ei pherfformio gan Annell Dyfri, sy'n raddedig o Ysgol y Gymraeg y Brifysgol a chyn-lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg.
Cwrdd â'r tîm
Cadeirydd y gangen
Dr Huw Williams
- Siarad Cymraeg
- williamsh47@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4806
Staff academaidd
Sian Morgan Lloyd
- Siarad Cymraeg
- lloydsm5@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6843
Christine Munro
- Siarad Cymraeg
- munroc2@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 225 10489
Anwen Davies
- Siarad Cymraeg
- daviesa107@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 225 11788
Staff y brifysgol
Dr Angharad Naylor
- Siarad Cymraeg
- nayloraw@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9007
Dr Mathew Pugh
- Siarad Cymraeg
- pughmj@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6862
Alexandra Llewelyn
- Siarad Cymraeg
- llewelynaf@cardiff.ac.uk
- +44(0)29 2087 4704
Dr Huw Williams
- Siarad Cymraeg
- williamsh47@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4806
Staff cysylltiedig
Dr Hefin Jones
- Siarad Cymraeg
- jonesth@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5357
Anna Loh
- Siarad Cymraeg
- loha@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0413
Yr Athro Eleri Rosier
- Siarad Cymraeg
- rosiere@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6479
Dr Geraint Palmer
- Siarad Cymraeg
- palmergi1@cardiff.ac.uk
Yr Athro Richard Wyn Jones
- Siarad Cymraeg
- wynjonesr@cardiff.ac.uk
- +44(0)29 2087 5448