Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Ganghellor

Heather Stevens CBE
Heather Stevens

Heather Stevens CBE

Astudiodd Heather Stevens Seicoleg yng Ngholeg Wadham, Prifysgol Rhydychen. Roedd hi a’i gŵr David yn rhan o dîm rheoli bychan a sefydlodd y cwmni yswiriant Admiral yng Nghaerdydd ym 1992. £7 biliwn yw gwerth y cwmni erbyn hyn, ac mae’n cyflogi dros 10,000 o bobl ledled y byd.

Gan ddefnyddio eu cyfoeth personol, sefydlodd Heather a David The Waterloo Foundation yn 2007. Ymddiriedolaeth sy'n rhoi grantiau i gefnogi prosiectau ym maes datblygiad yr ymennydd mewn plant, addysg merched dramor, prosiectau dŵr a glanweithdra ac sy'n cefnogi gwaith i warchod coedwigoedd glaw a'r amgylchedd morol yw’r Waterloo Foundation. Yng Nghymru, mae’r sefydliad yn canolbwyntio ar ofalwyr ifanc a chael pobl i mewn i fyd gwaith ac allan o dlodi.

Heather yw Cadeirydd y sefydliad ac mae ganddi rôl amlwg dros ben yng ngwaith y sefydliad, yn enwedig o ran y gronfa ar gyfer datblygiad plant. Mae hi’n ymddiddori’n arbennig mewn ymchwil niwrowyddonol ac wedi meithrin cyd-berthynas gydag academyddion unigol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys yr Athro Jeremy Hall, yr Athro Adrian Harwood a’r Athro Stephanie van Goozen. Mae’r Waterloo Foundation ynghyd â thîm y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn cynnal diwrnod cyhoeddus blynyddol i hyrwyddo ymchwil mewn meysydd o ddiddordeb maen nhw’n eu rhannu megis cwsg, ymarfer corff a diet a'u heffeithiau ar niwroddatblygiad.

Cafodd Heather ei phenodi’n CBE yn 2010 a bu’n Uchel Siryf De Morgannwg yn 2015. Mae’n un o Gymrodyr Anrhydeddus (2012) y Brifysgol ac yn Athro Gwadd Anrhydeddus yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Yn 2019 fe’i gwnaed yn Ddirprwy Ganghellor.

Mae Heather yn Ysgrifennydd Global Fishing Watch, yn Gadeirydd bwrdd Greenpeace Oceans, ac yn gyn-ymddiriedolwr Oceana a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru hefyd.