Video resources
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson yn rhoi darlithoedd a sgyrsiau byr yn rheolaidd yn ymwneud â'u hymchwil iechyd meddwl ieuenctid mewn mannau dysgu, cynadleddau a digwyddiadau cyhoeddus.
Mae'r adnoddau fideo wedi'u categoreiddio isod ac maent hefyd ar gael i'w gweld ar sianel YouTube Canolfan Wolfson.
Darlithoedd cyhoeddus
Beth sy'n gweithio i wella bywydau plant mwyaf bregus Lloegr
Dr Kirsten Asmussen
Dr Rhiannon Evans
Sgyrsiau ar gyfer clinigwyr
Anniddigrwydd Pediatrig: yr hyn y rydyn yn gwybod a'r hyn sydd angen i ni ei ddysgu
Dr Ellen Leibenluft
Watch Dr. Leibenluft's lecture on our youtube
Dewch i ni siarad am ADHD
Cyhoeddwyd yr animeiddiad hwn gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, ac mae ar gyfer plant sydd newydd gael diagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
Mae tîm ymchwil Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad gwaith Dr Sharifah Shameem Agha a Dr Kate Langley, sydd ill dwy’n aelodau o staff cyswllt Canolfan Wolfson, wedi gweithio gyda phlant sydd â'r cyflwr, a'u teuluoedd a'u gofalwyr, i greu'r animeiddiad sy'n trafod sut beth yw bod â ADHD. Darllen rhagor am yr animeiddiad a’r diwrnod agored ynghylch ADHD a lansiad y ffilm.
Let's talk about ADHD - YouTube
Hwyliau a lles pobl ifanc
Yma, mae Dr Rhys Bevan-Jones yn sôn am hwyliau, lles ac iselder ymhlith pobl ifanc – gan gynnwys sut y gallai hwyliau isel neu iselder fod yn amlygu’i hunain, rhesymau a allai fod yn sail posibl i hyn, a dulliau i atal a rheoli anawsterau. Mae hyn cael ei drafod yng nghyd-destun y person ifanc yn ogystal â’u teuluoedd/gofalwyr.
Mae hefyd yn trafod rhaglen ddigidol o'r enw 'MoodHwb', a grëwyd i gefnogi hwyliau a lles. Cafodd y rhaglen ei datblygu gyda phobl ifanc, teuluoedd, gofalwyr ac ymarferwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhaglen yn cael ei threialu cyn hir yng Nghymru a'r Alban.
Mae Rhys yn seiciatrydd ac yn ymchwilydd yn yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sgyrsiau a'r cynnwys fideo diweddaraf gan ymchwilwyr Canolfan Wolfson.