Ewch i’r prif gynnwys

Cerddorion ac academyddion Cymraeg yn ymweld ag Aotearoa (Seland Newydd) i archwilio pŵer cerddoriaeth fyw ar gyfer ieithoedd lleiafrifol

25 Hydref 2023

mae tri o bobl yn eistedd ymhlith balwnau
Band Cymraeg Chroma

Bydd perfformwyr ac academyddion o Gymru yn ymweld ag Aotearoa/Seland Newydd y mis hwn yn rhan o brosiect sy’n archwilio cerddoriaeth fyw a’i phwysigrwydd i ieithoedd lleiafrifol.

Mae Prosiect Pūtahitanga yn brosiect ymarfer creadigol ac ymchwil a arweinir gan Brifysgol Caerdydd yn rhan o bartneriaeth â Phrifysgol Waikato a FOCUS Wales. Ei nod yw dod o hyd i bwyntiau cyswllt rhwng te reo Māori (yr Iaith Māori), te ao Māori (y byd Māori/byd-olwg) a diwylliant Cymraeg trwy lens sîn gerddoriaeth pob gwlad.

Yn gynharach eleni, ymwelodd y band Māori Half/Time â Chymru i berfformio yn FOCUS Wales a nifer o gigs ledled Cymru, yn ogystal â rhoi sgwrs ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar gyfer y cam hwn o’r prosiect, bydd y band Cymraeg Chroma, sy’n rhyddhau eu halbwm cyntaf y mis hwn, yn teithio i Aotearoa (Seland Newydd), gan berfformio gyda Half/Time mewn cyfres o gigs, gan gynnwys Festival of Weird yn Kirikiriroa (Hamilton).

Bydd academyddion o'r Brifysgol ac Andy Jones o FOCUS Wales hefyd yn mynd i gyfnewid gwybodaeth, casglu ymchwil ac archwilio cyfleoedd cydweithio pellach .

Bydd tîm y prosiect yn mynd ar daith gerdded o lleoliadau coll o amgylch Tāmaki Makaurau (Auckland), gan dynnu eu sylw at yr heriau a wynebir gan gerddorion a hyrwyddwyr yn y ddinas, sy’n atseinio gyda’r rheiny sydd â phrofiad yn y sector cerddoriaeth fyw yng Nghymru.

Bydd Andy Jones ac aelodau Half/Time yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel yn Sefydliad Cyfryngau Creadigol SAE yn Tāmaki Makaurau (Auckland) ar y rhwystrau a'r cyfleoedd ar gyfer datblygu seilwaith ar gyfer cymunedau cerddoriaeth; a sut y gall artistiaid gymryd y cam o greu celf i feddwl am sut i gyflwyno eu hunain yn rhyngwladol.

Bydd y grŵp hefyd yn cyfarfod â phobl greadigol, hyrwyddwyr ac arianwyr i ddeall yr heriau sy’n wynebu’r sîn gerddoriaeth DIY Māori sy’n dod i’r amlwg yn Aotearoa, gan nodi camau gweithredu i gefnogi’r sîn, ac i drafod cyfleoedd cyfnewid artistiaid pellach rhwng Aotearoa a Chymru.

Mae'n anrhydedd enfawr cael gwahoddiad i Aotearoa i chwarae ychydig o sioeau gyda'n ffrindiau newydd Half/Time. Fe wnaethon ni chwarae gyda nhw yn gynharach eleni pan wnaethon nhw ymweld â’r DU ac rydyn ni’n methu aros iddyn nhw ddangos i ni eu hoff leoliadau a lleoedd maen nhw’n hoffi cymdeithasu.

Zac Mather Chroma

Dywedodd Wairehu Grant, gitarydd gyda Half/Time, ac sy’n ysgrifennu PhD ym Mhrifysgol Waikato ynghylch y gorgyffwrdd creadigol ac ideolegol rhwng y diwylliant Māori a’r diwylliant pync: “Ar ôl yr amser anhygoel a gawsom yng Nghymru yn gynharach eleni a’r manaakitanga (lletygarwch) a ddangoswyd i ni gan dîm Prifysgol Caerdydd a Chroma, rydym yn hynod gyffrous i’w croesawu i gyd i Aotearoa. Edrych ymlaen yn fawr at chwarae mwy o sioeau gyda Chroma a chydweithio gyda thîm Caerdydd ymhellach.”

Dywedodd Andy Jones, sylfaenydd FOCUS Wales: “Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio ar y prosiect hynod bwysig hwn, sy’n cysylltu ein dwy gymuned gerddorol, ac a fydd yn cyflwyno llawer o gyfnewid diwylliannol cyffrous dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Mae nifer o weithgareddau academaidd hefyd yn cael eu cynnal yn ystod y daith. Bydd Dr Elen Ifan o Ysgol y Gymraeg a Dr Joseph O’Connell o’r Ysgol Cerddoriaeth yn cyfweld â cherddorion sy’n perfformio yn te reo Māori yn rhan o ddatblygiad o brosiect peilot a gynhaliwyd yn FOCUS Wales ym mis Mai 2023, yn rhan o waith sy’n ymchwilio i’r hyn y mae’n ei olygu perfformio mewn iaith leiafrifol.

Bydd Dr Ifan hefyd yn arwain gweithdy ymchwil creadigol-cydweithredol gyda cherddorion Māori yn Creative Waikato yn Kirikiriroa (Hamilton), y cyntaf o ddau weithdy a ariennir gan Grant Arloesi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd yr ail yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd gyda cherddorion Cymraeg.

Bydd Deon y Gymraeg Dr Huw Williams hefyd yn rhoi seminar ym Mhrifysgol Waikato ar iaith a diwylliant Cymru, a chanlyniadau posibl colli golwg ar eu gwerth a’u harwyddocâd deallusol.

Mae'n gyffrous iawn bod yn rhan o'r daith hon a bod yn cynrychioli'r Brifysgol i archwilio ein partneriaeth a'n diddordebau cyffredin. Rwy’n siwr y bydd yn brofiad addysgiadol enfawr inni gyd.

Dr Huw Williams Deon y Gymraeg, Darllenydd mewn Athroniaeth a Darlithydd Cysylltiol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Meddai Catrin Jones, Rheolwr Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd, sy’n arwain y prosiect: “Er bod ein gwledydd ar ochrau gwahanol y byd, mae’n amlwg fod gan ddiwylliannau Cymraeg a Māori lawer yn gyffredin. Dyma obeithio y bydd cryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Aotearoa yn cynyddu hyder artistiaid cerddorol sy’n perfformio yn eu hieithoedd eu hunain, yn ogystal â dyfnhau eu dealltwriaeth o’r cyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael iddynt.

“Yn y tymor hir, rydym yn obeithiol o greu partneriaeth barhaol fel y gall artistiaid brodorol o Aotearoa, ac artistiaid Cymraeg o Gymru, gael mynediad i gyfleoedd i ddatblygu eu gyrfaoedd y tu allan i’w gwledydd brodorol, yn ogystal ag archwilio cysylltiad dyfnach â’u hunaniaeth a’u hiaith eu hunain.

“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth ac egni cadarnhaol gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Waikato, FOCUS Wales, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, British Council Seland Newydd, Creative Waikato ac yn fwyaf arbennig, aelodau Half/Time a CHROMA. ”

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.