Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth i gleifion

Popeth sydd angen i chi ei wybod am eich sgan tomograffeg gollwng positronau/tomograffeg gyfrifiadurol (PET/CT), o drefnu apwyntiad i gael eich canlyniadau.

I’w helpu gyda’u diagnosis cyffredinol ac i benderfynu ar y driniaeth orau i chi, mae eich meddyg wedi eich cyfeirio atom i gael sgan PET/CT.

Mae sgan PET/CT yn dechneg delweddu arbenigol sy’n defnyddio brechiad ymbelydrol bach i gael gwybodaeth sensitif am eich organau mewnol mewn sganiwr penodedig. Dysgwch fwy am dechnoleg gollwng positronau (PET).

Ein nod yw cynnig delweddau o’r safon orau i helpu â’ch cynllun triniaeth, ac rydym am sicrhau bod eich ymweliad â’n clinig yn un diffwdan a didrafferth.

Cyn eich apwyntiad

Beth sydd angen i chi ei wneud cyn cael sgan.

Ar y diwrnod

Beth sy’n digwydd ar ddiwrnod eich apwyntiad am sgan PET/CT.

Eich canlyniadau

Beth sy’n digwydd ar ôl cwblhau eich sgan, sut i gael eich canlyniadau a sut i roi adborth ar eich profiad.

Ein lleoliad

Rydym ni yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Lawrlwythwch ein map Saesneg i gael cyfarwyddiadau manwl ynglŷn â sut i ddod o hyd i ni:

Map of University Hospital Wales

Map gyda chyfarwyddiadau i gyrraedd Canolfan Delweddu (PET) Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd.