Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Clinigol

Cynigiwn wasanaeth sganio tomograffeg gollwng positronau (PET) clinigol rheolaidd i tua 2.4 miliwn o gleifion yng Nghymru.

Mae ein sganiau PET yn unigryw am eu bod yn cynnig gwybodaeth weithredol a all eu gwneud yn sensitif iawn i gamau cynnar clefydau, yn arbennig mathau penodol o ganser yn ogystal â chlefydau’r ymennydd fel epilepsi a dementia.

Ein partneriaid

Gweithiwn mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd yng Nghymru a gweithwyr iechyd proffesiynol o:

  • Abertawe Bro Morganwg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  • Hywel Dda
  • Powys

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth byd-eang i gleifion sy’n fodlon ariannu eu sgan eu hunain neu sydd ag yswiriant gofal iechyd preifat.

Ein gwasanaethau i gleifion

Os ydych yn feddyg teulu neu’n feddyg ymgynghorol, gallwch atgyfeirio’ch cleifion atom am ystod o wasanaethau clinigol:

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Gofal Iechyd Cymru (WHSSC) yn comisiynu gwasanaeth delweddu PET diagnostig arferol gennym ar ran GIG Cymru.

Gallwn gynnig delweddau diagnostig sensitif i ystod o fathau o ganser megis:

  • yr anws
  • colon a’r rhefr
  • y groth
  • pen a gwddf
  • ysgyfaint
  • lymffoma
  • oesoffagaidd
  • prostad
  • canser o darddiad anhysbys.

Fel rhan o’r ymdrech i ddarparu epilepsi GIG i Gymru cawsom arian i sefydlu gwasanaeth sganio PET epilepsi rheolaidd.

O ganlyniad, nid oes yn rhaid i gleifion deithio i Lundain mwyach i gael sgan PET. Rydym ar hyn o bryd yn cyflawni tua 25 sgan y flwyddyn fel rhan o’r gwasanaeth cenedlaethol hwn.

Am nad oes ond hyn a hyn o sganwyr PET yn Ne-orllewin Lloegr, arferai cleifion o Wlad yr Haf, Dorset, Dyfnaint a Chernyw orfod teithio i Lundain i gael eu sganiau PET.

Rydym yn falch o gyhoeddi taw ni bellach yw canolfan PET pediatrig ranbarthol De-orllewin Lloegr a’n bod yn cynnig gwasanaeth sganio rheolaidd i gleifion pediatrig GIG Lloegr.

Rydym yn cynnal 20-30 sgan y flwyddyn i GIG Lloegr.

Mae modd canfod canser cychwynnol y prostad â sensitifrwydd cymedrol gan ddefnyddio PET/CT a deilliannau colin label [(18)F].

Ar hyn o bryd, nid argymhellir PET/CT colin [(18)F] mewn gofal sylfaenol, ond gellir ei ddefnyddio gyda chanser y prostad a amheuir yn glinigol gyda biopsïau prostad sy’n gyson negyddol, i baratoi at ail fiopsi wedi’i ffocysu.

Cafwyd canlyniadau addawol ar gyfer y defnydd o PET/CT gyda deilliannau colin label [(18)F] mewn cleifion lle ceir canlyniadau biogemegol ailadroddus.

Dengys cyfraddau canfod PET/CT colin ar gyfer achosion ailadroddus lleol, rhanbarthol a phell mewn cleifion ag achosion biogemegol ailadroddus gyfatebiaeth linellol â gwerth antigen prostad-benodol (PSA) ar yr adeg delweddu, gan gyrraedd 75% ymhlith cleifion â PSA llai na 3 ng/ml. Hyd yn oed gyda gwerthoedd PSA llai nag 1 ng/ml, mae modd diagnosio achosion ailadroddus â PET/CT colin mewn tua thraean o’r cleifion.

Gofyn am sgan

I ofyn am sgan delweddu PET, lawrlwythwch a llenwi ein ffurflen a'i ebostio atom drwy petic.cardiff@wales.nhs.uk.

Rhaid i bob atgyfeiriad ddod gan feddyg teulu neu ymgynghorydd cofrestredig.

Ffurflen Gais Ar Gyfer Sganio PET/CT

Ffurflen Gais Ar Gyfer Sganio PET/CT.

Ceisiadau Ariannu Unigol gan Gleifion

Weithiau, mae angen sgan PET/CT sydd y tu hwnt i feini prawf y cytundeb yng Nghymru a ariennir gan y GIG. Yn yr achos hwn, gallwch wneud cais i gymeradwyo Ceisiadau Ariannu Unigol gan Gleifion (IPFR) yn uniongyrchol i GIG Cymru.