Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithiwch â ni

Rydym yn awyddus i weithio gydag ymchwilwyr prifysgolion a chwmnïau biodechnoleg i ddatblygu a phrofi cyffuriau ac asiantau canfod newydd.

Mae gennym gyfleuster delweddu PET cwbl gyfoes gwerth miliynau o bunnoedd a all gynnig nifer o lwyfannau technolegol ac arbenigedd mewn tomograffeg gollwng positronau.

Ein llwyfannau ymchwil a’n gwasanaethau

Un o elfennau mwyaf cyffrous ein canolfan yw ei bod o’i hanfod yn dwyn ynghyd gyfleoedd ar gyfer ystod eang o sgiliau a chefndiroedd gwyddonol, o’r gwyddorau ffisegol sylfaenol i rai biolegol a meddygol i ddatblygiad ymarferol asiantau clinigol ac arferion newydd:

Ffersiwn fflworeiddiol o LDOPA yw FDOPA, y gellir ei ddefnyddio at ddibenion niwrolegol ac oncolegol. Mewn niwroleg, mae FDOPA yn croesi rhwystr gwaed yr ymennydd ac fe’i cedwir mewn fesiclau cynsynaptig nes i actifadu ei roi ar waith, a’i cyffio mewn derbynyddion dopamin.

Defnyddir FDOPA i astudio swyddogaeth dopaminergig striataidd gynsynaptig mewn anhwylderau niwrolegol fel clefyd Parkinson, sgitsoffrenia, mynd yn gaeth i sylweddau a chlefyd Huntingdon.

Mewn oncoleg, mae modd defnyddio FDOPA mewn amrywiaeth eang o diwmorau niwroendocrinaidd, gan gynnwys ffeocromocytoma, paraganglioma, canser merol chwarren y thyroid a thiwmorau gastro-entero-pancreatig

Mae FDOPA hefyd yn ddefnyddiol wrth ddelweddu tiwmorau’r ymennydd. Mae’n cronni mewn gliomas ac mae’n ddefnyddiol wrth wahaniaethu rhwng radionychiant ac ail achosion. Gallwn gynhyrchu, cyflenwi a sganio gyda’r llwyfan canfod hwn.

Mae ffalyprid [F-18] yn ligand PET affinedd uchel, tra ddewisol sy’n addas iawn i fesur argaeledd derbynyddion D2/D3 yn rhannau allstriataidd yr ymennydd gan gynnwys y thalamws, y breithellau blaenymenyddol, trumiog ac arlleisiol, y rhannau o’r ymennydd yr effeithir arnynt gan sgitsoffrenia gyda dulliau delweddu eraill.

Mewn partneriaeth â FDOPA, mae’n galluogi delweddu trosglwyddo dopaminau a statws derbynyddion. Gallwn gynhyrchu, cyflenwi a sganio gyda’r llwyfan canfod hwn.

Mae proteinau Tau yn un o ddau biofarcwr sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer. Mae Tau hefyd yn gysylltiedig ag ystod eang o anhwylderau niwrolegol a elwir yn Tauopathïau.

Mae delweddu PET gydag F Tau yn galluogi meintioliad y protein tau yn yr ymennydd. Mae hyn yn galluogi nodi cleifion mewn perygl o ddatblygu dementia cyn i arwyddion o broblemau gwybyddol cymedrol ddod i’r amlwg, gan alluogi olrhain datblygiad tauopathïau dros amser, yn ogystal â galluogi asesu effeithiolrwydd therapïau gwrth-Tau. Gallwn gynhyrchu, cyflenwi a sganio gyda’r llwyfan canfod hwn.

Amyloid Beta yw’r ail biofarciwr sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer. Gallwn sganio cleifion am y biofarciwr hwn gan alluogi ymchwiliad manwl o glefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia.

Ochr yn ochr â’r llwyfan F tau, gallwn ddelweddu ac olrhain biofarcwyr dementia dros amser gan nodi cleifion sydd mewn perygl o ddatblygu dementia.

Mae fflwmasenil (FMZ) yn wrthwynebydd gwrthdroadwy penodedig sy’n rhwymo wrth y safle rhwymo bensodiasepin yn y cymhleth derbynnydd bensodiasepin canolog GABAA . Mae’n ddefnyddiol wrth leoli epilepsi ffocal gwrthsafol.

Mae sodiwm fflworid yn ganfyddwr sy’n galluogi delweddu clefyd metastatig esgyrnol. Mae’r dechneg hon yn cynnig mwy o sensitifrwydd a phenodolrwydd o’i chymharu â delweddu sganio esgyrn tomograffeg gyfrifiadurol gollwng ffotonau unigol (SPECT).

Mae fflwrothymidin (FLT) yn swbstrad ar gyfer cinase thymidin ac mae croniad FLT mewn celloedd yn cyfateb i’r gweithgarwch TK1 ac amlhad cellog.

Defnyddiwyd FLT yn helaeth mewn ymchwil oncolegol i ddelweddu canser a gwerthuso ymatebion i drin canserau fel lymffoma, canser y front, y pen a’r gwddf, yr ymennydd, cerfigol, canser y pancreas, yr oesoffagws, yr arennau, yr ysgyfaint, y colon a’r rhefr a thiwmorau niwroendocrin.

Gallwn radiolabelu amrywiaeth eang o wrthgyrff a chelloedd monoglonaidd cyn mynd ati i olrhain eu symudiad yn y corff dros gyfnod o wythnosau.

Cysylltu â ni

I ddysgu mwy am gydweithio â ni, anfonwch e-bost i ni â’ch manylion cyswllt i:

Canolfan Delweddu (PET) Cymru at ddibenion Ymchwil a Diagnostig