Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Yr Athro Christopher Marshall, Cyfarwyddwr Canolfan Delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau Cymru at ddibenion Ymchwil a Diagnostig (PETIC)
Yr Athro Christopher Marshall, Cyfarwyddwr Canolfan Delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau Cymru at ddibenion Ymchwil a Diagnostig (PETIC)

Gweithredwn un o gyfleusterau delweddau PET mwyaf cyfoes y DU.

Sefydlwyd Canolfan Delweddu PET Cymru at ddibenion Ymchwil a Diagnostig (PETIC) o ganlyniad i fuddsoddiad o £16.5m gan Lywodraeth Cymru.

“Ein cenhadaeth yw cynnig gwasanaeth Tomograffeg Gollwng Positronau (PET) diagnostig ynghyd â rhagoriaeth academaidd i ategu academia a’r diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru a thu hwnt.”

Yr Athro Chris Marshall, Cyfarwyddwr

Cafwyd arian gan yr Adran Iechyd i gynnig gwasanaeth clinigol arferol i gleifion Cymru, a’r Adran Busnes, Menter, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth i gynnig cymorth i’r diwydiant gwyddorau bywyd sydd ar dwf yng Nghymru.

Sefydlwyd gwasanaeth delweddu rheolaidd i GIG Cymru ym mis Medi 2010 a chrëwyd ein safon arfer gweithgynhyrchu da (GMP) radiofferyllol gyntaf ym mis Medi 2011. Ers hynny, rydym wedi cynyddu ein llwyth gwaith a’n galluedd delweddu’n sylweddol, gan barhau i gynnig gwasanaeth o’r safon orau. O ganlyniad i hyn gwnaethom sicrhau achrediad ISO 9001:2008 yn 2015.

Amcangyfrifodd yr achos busnes gwreiddiol y byddai galw am 1,000 sgan y flwyddyn. Gwnaethom roi sgan i’n claf cyntaf ym mis Medi 2010 ac ers hynny gwelwyd cynnydd blwyddyn ar flwyddyn o tua 15% y flwyddyn yn nifer y sganiau a gyflawnwyd. Heddiw, rydym yn sganio dros 2,000 o gleifion y flwyddyn.

Disgwyliwn i hyn barhau ar yr un raddfa wrth i’r dangosyddion clinigol cymeradwy gael eu hymestyn ac i’r defnydd o ddelweddu PET yng Nghymru gynyddu.

Ein nodau craidd

Rydym yn gweithio i:

  • sefydlu canolfan ragoriaeth ymchwil mewn delweddu PET a fydd yn denu arian ymchwil mawr a buddion cysylltiedig hynny i Gymru i gyflawni nodau agenda strategol Gwyddoniaeth Cymru’r Gyfarwyddiaeth Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (BETS)
  • datblygu gwasanaeth clinigol, yn bennaf i gleifion yn y GIG yng Nghymru, sy’n arwain at ddiagnosis gwell a chynllunio triniaeth sy’n tanategu gofal iechyd o safon uchel
  • dod yn rhan graidd o’r economi seiliedig ar wybodaeth, gan ddenu a gweithio’n agos â rhanddeiliaid mawr yn y diwydiant gofal iechyd i gyflawni amcanion economaidd BETS.

Rhagor o wybodaeth

I ddysgu mwy amdanom ni a’n gwasanaethau, cysylltwch â:

Yr Athro Christopher Marshall

Yr Athro Christopher Marshall

Cyfarwyddwr Canolfan Delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau (PET) at ddibenion Ymchwil a Diagnostig

Email
marshallc3@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2074 8164

Swydd wag