Is-strategaethau addysg a myfyrwyr

Bydd ein his-strategaeth newydd yn gwella ansawdd dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau profiad myfyriwr addysgol rhagorol o ansawdd gyson uchel, a ysgogir gan greadigrwydd a chwilfrydedd, gydag addysgu a gwasanaethau rhagorol i wella dysgu a chefnogi bywyd myfyriwr. Rydym yn parhau i ddenu myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil â chymwysterau uchel, gan gynorthwyo pob myfyriwr i gyflawni ei botensial.
Gan roi mwy o flaenoriaeth i ddulliau addysgu a dysgu cyfunol o safon, byddwn yn llunio ar ein rhaglenni llwyddiannus i gynnwys myfyrwyr yn ein gweithgareddau ymchwil, arloesedd ac ymgysylltu. Bydd ein myfyrwyr yn elwa ar ac yn cyfrannu at ein amgylchedd dysgu sy'n llawn ymchwil, ac yn dod yn rhan o gymuned cynfyfyrwyr byd-eang.
Byddwn yn adeiladu ar ein hanes cryf o ehangu cyfranogiad er mwyn sicrhau ein bod yn hyrwyddo addysg uwch er budd pawb. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr er mwyn eu tywys ar daith addysgol a fydd yn cyfoethogi eu bywydau, gan eu paratoi ar gyfer arwain a byd gwaith, ac yn eu galluogi i chwarae rhan lawn mewn cymdeithas.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy newidiadau mewn chwe phrif faes:
- Creu Cymuned Ddysgu Gynhwysol
- Gwella'r Amgylchedd Dysgu
- Cynllunio ar gyfer Dyfodol Llwyddiannus Myfyrwyr
- Gwerthfawrogi a Hyrwyddo Rhagoriaeth Addysgu
- Cefnogi Cymuned Bywyd a Dysgu Myfyrwyr
- Gwerthfawrogi ein Myfyrwyr fel Partneriaid.
Darllenwch yr is-strategaeth lawn

Is-strategaethau addysg a myfyrwyr
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad o’r radd flaenaf i fyfyrwyr. Rydyn am weithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr i fynd â nhw ar daith addysgol ysbrydoledig.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.