Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil effaith economaidd blaenorol

Mae manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil technolegau digidol sy’n cael eu galluogi gan fand eang yn hanfodol i gryfhau perfformiad busnes a pherfformiad economaidd rhanbarthol yng Nghymru.

Mae’r Adroddiad ar Effaith Economaidd Aeddfedrwydd Digidol ar gyfer Cymru 2018 yn darparu tystiolaeth o’r newid digidol sy’n digwydd yn economi Cymru. Mae’n dangos sut mae mabwysiadu a defnyddio technolegau digidol yn barhaus yn arwain at fwy o aeddfedrwydd digidol i BBaChau, gyda sgileffeithiau cadarnhaol i gynhyrchiant rhanbarthol yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig i Gymru er mwyn pontio’r bwlch ffyniant rhanbarthol gyda’r DU.

Crynodeb Adroddiad ar Effaith Economaidd Aeddfedrwydd Digidol 2018

Adroddiad ar Effaith Economaidd Aeddfedrwydd Digidol ar gyfer Cymru 2018 - Crynodeb.

Digital Maturity Economic Impact Report 2018

The full report and analysis from the 2018 Digital Maturity Economic Impact Report.

Dadansoddiad 2017

Rhoddodd yr Adroddiad ar Effaith Economaidd Aeddfedrwydd Digidol ar gyfer Cymru 2017 ddadansoddiad cynhwysfawr o'r effeithiau ar lefelau busnes a rhanbarthol pan mae busnesau bach a chanolig Cymru yn mabwysiadu ac yn defnyddio technolegau digidol. Dangosodd sut mae’r defnydd o adnoddau band eang yn cynorthwyo busnesau bach a chanolig i wella’u perfformiad, dod yn fwy effeithlon a chyfrannu at gynhyrchiant rhanbarthol cryfach. Mae hyn yn bwysig i Gymru er mwyn pontio'r bwlch ffyniant rhanbarthol yn y Deyrnas Unedig.

Crynodeb Adroddiad ar Effaith Economaidd Aeddfedrwydd Digidol 2017

Adroddiad ar Effaith Economaidd Aeddfedrwydd Digidol ar gyfer Cymru 2017 - Crynodeb

Digital Maturity Economic Impact Report 2017

The full report and analysis from the 2017 Digital Maturity Economic Impact Report.

Dadansoddiad 2016

Canolbwynt sylfaenol y dadansoddiad cychwynnol a gynhaliwyd yn 2016, y cyntaf mewn cyfres o adroddiadau effaith economaidd, oedd profi modelau ar gyfer cyfrifo effaith economaidd. I'r perwyl hwn, roedd y dadansoddiad yn cwmpasu’r dadansoddiad archwiliadol canlynol:

  • synthesis o ganfyddiadau o fusnesau astudiaeth achos
  • effeithlonrwydd busnes, gan ddefnyddio dadansoddiad Frontier
  • Modelu mewnbwn-allbwn o economi Cymru.

2016 Economic Impact Report

Research into the economic impacts that derive from business use and exploitation of superfast broadband.