Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae'r Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) sy'n rhan o Ysgol Busnes Caerdydd, yn cynnal ymchwil am y buddion economaidd sy'n gysylltiedig â busnesau yng Nghymru yn defnyddio technolegau band eang cyflym iawn.

Fel rhan o'r ymchwil, rydym yn gwahodd busnesau i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Bydd y data a gasglwyd yn helpu i hyrwyddo'r gwasanaethau sy'n galluogi band eang cyflym iawn a chymryd mantais ohonynt yn ogystal ag asesu eu heffaith economaidd.

Cefndir y prosiect

Mae Llywodraeth Cymru'n cyflwyno rhaglen cefnogi busnesau a gefnogwyd gan y Swyddfa Cyllid Ewropeaidd i wneud y gorau o'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag isadeiladedd band eang cyflym iawn a'r technolegau a alluogir o ganlyniad.

Mae Prifysgol Caerdydd yn darparu swyddogaeth ymchwil a gwybodaeth ac yn helpu’r panel ag arweinir gan ddiwydiant sy’n rhoi cyngor a chymorth i'r rhaglen.

Amcanion

  • Darparu cefnogaeth ddiduedd a gwrthrychol fydd yn cynorthwyo cynlluniau strategol ar gyfer darparu cefnogaeth fusnes i fanteisio ar fand eang cyflym iawn.
  • Ymgymryd â gwaith ymchwil i gefnogi manteisio llwyddiannus o’r isadeiladedd band llydan cyflym iawn yng Nghymru.
  • Darparu deunydd i’r busnesau bach a chanolig fydd yn eu helpu i archwilio canlyniadau arloesol o’u defnydd o fand eang cyflym iawn ac i adnabod tueddiadau newydd a’u lle o fewn datblygiadau polisi ehangach.
  • Archwilio tystiolaeth gymharol o ardaloedd a rhanbarthau eraill a allai gyfrannu at wasanaethau ac hyfforddiant yng Nghymru.

Pwrpas yr ymchwil yw i ennill gwell dealltwriaeth o sut gall cwmnïau wneud defnydd mwy arloesol o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil mynediad i'r we sy'n ddibynadwy ac sydd â chapasiti uchel.

Cefnogi busnes

Mae Llywodraeth Cymru'n darparu cefnogaeth busnes band eang cyflym iawn drwy 'Busnes Cymru'.

Ynglŷn â'r tîm

Mae gan yr Uned Ymchwil i Economi Cymru dîm o ymchwilwyr sydd yn gweithio ar y Prosiect Band Eang Cyflym iawn.

Cysylltu

Tîm prosiect Band eang cyflym iawn