Deon y Gymraeg
Deon y Gymraeg sy'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu strategaeth Gymraeg y Brifysgol.
Gan adrodd i'r Dirprwy Is-Ganghellor a chynrychioli'r Gymraeg ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, mae'r Deon yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymdrechion i hyrwyddo a dathlu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn y brifysgol.
Mae'r rôl yn cydlynu staff Cymraeg allweddol i sicrhau dull unedig o ymdrin â Strategaeth y Gymraeg y Brifysgol, Yr Alwad/Embrace It.
Mae'r Deon yn cydweithio ar draws y Brifysgol i integreiddio'r Gymraeg yn ein diwylliant a'n gweithgareddau, yn bennaf trwy'r Academi Gymraeg, sy'n goruchwylio'r holl fentrau Cymraeg ac sydd â'i staff craidd yn Swyddfa'r Is-Ganghellor.
Deon y Gymraeg
Y Deon presennol yw Dr Angharad Naylor, Uwch Ddarlithydd ac Uwch Diwtor Personol yn Ysgol y Gymraeg, yn ogystal â'r Partner Academaidd ar gyfer Cymorth Dysgu Personol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Mae'r Deon yn cydweithio drwy'r Academi Gymraeg i ddatblygu, cysylltu a chodi ymwybyddiaeth o ddarpariaeth a diwylliant Cymraeg y brifysgol.
Rwy'n edrych ymlaen at arwain cam nesaf y gwaith yma a chyfrannu at lwyddiant ein strategaeth newydd yn y Brifysgol. Gall iaith a diwylliant Cymru ein gwreiddio yn eu lle - yn ein diwylliant, cynefin, a'n cymuned – wrth agor drysau i siaradwyr, cymunedau a diwylliannau newydd.