Yn llwyglyd neu'n sychedig? Dewch o hyd i amrywiaeth eang o opsiynau bwyd a diod yma ar y campws. Ffres, blasus a bob amser yn barod pan fyddwch chi.
Erthyglau diweddaraf
Beth sydd ar y fwydlen?
P'un a ydych chi'n crefu brechdan grasu glasurol, cawl fegan cartref neu datws trwy’u crwyn gyda'ch hoff lenwad, mae gennym ni ddewis amrywiol ar eich cyfer chi.
Lawrlwythwch ein bwydlenni diweddaraf i weld beth sydd ar gael heddiw a chynlluniwch eich pryd bwyd nesaf!
Ein lleoliadau
O gaffis clyd i fwytai prysur, mae digonedd o lefydd i chi fachu lluniaeth a rhywbeth bach i'w fwyta ar y campws.
Gyda chaffis a bwytai sy'n siŵr o ddiwallu'ch chwantau bwyd, rydyn ni'n cynnig prydau bwyd rhad a blasus, er mwyn rhoi digon o egni i chi yn ystod y dydd.
-
Green Shoots
Mae ein caffi llysieuol a fegan ar lawr gwaelod y Prif Adeilad, yn lle perffaith ar gyfer astudio gyda digonedd o goffi neu ginio maethlon sy'n seiliedig ar blanhigion. -
Caffi'r Biowyddorau
Man cyfleus i gymdeithasu ar lawr gwaelod Adeilad Syr Martin Evans, sy'n ddelfrydol ar gyfer bachu coffi a croissant cyflym neu bryd o fwyd poeth yng nghwmni ffrindiau. -
Lolfa IV
Wrth galon Campws Parc y Mynydd Bychan, mae'r caffi clyd yma yn lle gwych i ymlacio a chael tamaid i'w fwyta, p'un a yw hynny'n frechdan gyfleus neu'n danteithion melys. -
Caffi John Percival
Ewch draw i gaffi Adeilad John Percival am frecwast ysgafn sy'n paru'n berffaith â'r coffi barista neu gawl neu salad ffres ar gyfer cinio. -
Bwyty Trevithick
Yn adnabyddus am ei amrywiaeth, yma gallwch ddod o hyd i bopeth o basteiod poeth a phasta ffres i frechdanau a byrbrydau - heb sôn am yr ystod eang o ddanteithion melys. -
Bwyty Julian Hodge
Wedi'i leoli yn Ysgol Busnes Caerdydd, mae yma gaffi sy'n llawn opsiynau yn ogystal â chownteri bwyd poeth sy'n gweini clasuron Prydeinig a bwydydd rhyngwladol. -
Caffi Morgannwg
Ein lle newydd yn Adeilad Morgannwg, ymlaciwch yn y seddi clyd gyda choffi arddull barista a panini ffres.