Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i fwyty Trevithick

Ar gyfer amrywiaeth o brydau bwyd poeth a phethau blasus o’r caffi.

Cymuned y Brifysgol yn eistedd yn adeilad Trevithick

Amrywiaeth, amrywiaeth, amrywiaeth! Mae hyn yn rhywbeth y mae Trevithick yn adnabyddus amdano, gyda bwyty a chaffi yn rhannu'r un lle a digonedd o opsiynau poeth ac oer ar gyfer cinio a swper.

Mae pasteiod, saladau, cawl cartref, tatws pob, tsili, brechdanau a chreision ar gael - heb sôn am y danteithion melys. Mae'r fwydlen yn newid bob wythnos, sy'n golygu y gallwch chi roi cynnig ar rywbeth newydd bob tro y byddwch chi’n ymweld â ni.

Os ydych chi'n byw yn llety sy'n rhannol ganolog, mae eich pryd gyda'r nos wedi'i gynnwys yn eich rhent fel eich bod yn gwybod y cewch chi bryd o fwyd da ar ôl diwrnod hir yn y brifysgol.

P'un a ydych chi eisiau rhywbeth i fynd neu eisiau eistedd lawr gyda phlât, mae rhywbeth at ddant pawb yn Trevithick.

Bwdlyen Bwyty Trevithick

Oriau agor a lleoliad

Dydd Llun - Dydd Gwener08:30 - 18:30
Dydd Sadwrn a Dydd SulAr gau
Trevithick restaurant

Awydd cael rhagor o wybodaeth?

Dilynwch ni ar Instagram @CUFoods.

Latest articles

Bwyd figan a llysieuol ar y campws

Opsiynau sy’n seiliedig ar blanhigion ym Mhrifysgol Caerdydd

Bwyd am bris gostyngol ar gael drwy Too Good To Go

Cyfle i leihau gwarged bwyd ac arbed arian

Manteisiwch ar ein cynigion bwyd

Dewisiadau rhesymol a blasus dros ben

Fe enillon ni yng Nghystadlaethau TUCO 2025!

Buddugoliaeth ddwbl i Fwyd Prifysgol Caerdydd