Ewch i’r prif gynnwys

Gweisg preifat

Rhwymo brodig gan Wasg Kelmscott.

Engrheifftiau eang o weisg preifat Prydeinig, Ewropeaidd ac Americanaidd yn gweithredu yn y 19eg a’r 20fed ganrif.

Dechreuodd mudiad Gweisg Preifat, a gysylltir â mudiad Celf a Chrefft, ar ddiwedd y 19eg ganrif gyda Gwasg sefydlol Kelmscott Williams Morris. Cyhoeddodd Gwasg Kelmscott 53 o deitlau (18,000 o gopïau yn gyfan gwbl) o lyfrau wedi’u hargraffu â llaw o ansawdd, a roddodd y sylfaen ar gyfer adferiad y gweisg preifat ym Mhrydain Fawr ac Ewrop.

Y prif weisg a gynrychiolir yn y casgliad yw Golden Cockerel (c.215 o eitemau), Kelmscott (c. 60 o eitemau) a Cuala ( tua 60 o eitemau, y wasg a gysylltir gyda W.B. Yeats). Ceir cyfanswm o tua 100 o weisg/cyhoeddwyr yn y casgliad, o Wasg Alcestis i Wasg Woburn. Mae'r mwyafrif o'r cyfrolau gan awduron megis Morris, Shakespeare, Spenser a Yeats.

Mae casgliad cysylltiedig hefyd yn cynnwys adran amrywiol o rwymiadau addurnol, gydag esiamplau o Rwymo Hampstead i Sangorski a Sutcliffe.

Mae Llyfrgell Salisbury yn cynnwys casgliad cysylltiedig o gyfrolau Gwasg Gregynog, sy'n cynnwys bron i bob teitl o’r 20fed ganrif gynnar, yn ogystal â rhan fwyaf o gyhoeddiadau o ddiwedd y 20g, o dros 100 o gyfrolau yn gyfan gwbl.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives