Ewch i’r prif gynnwys

Casgliad Drama

Detholiad o waith Shakespeare yn y Casgliad Drama.

Deunydd Shakespeareaidd prin, ac amrywiaeth eithriadol o dda o gyfrolau prif awduron Dramâu'r Adferiad.

Yn cynnwys set brin o gyfrolau Shakespeareaidd o'r 17g, a nifer o weithiau gan Dryden, Cibber, Johnson, Congreve ayyb. Mae'r rhan fwyaf o’r gweithiau yn cynrychioli Drama’r Adferiad, tra bod y gweddill yn dyddio o’r 18fed-19eg ganrif. Mae’n un o’r casgliadau gorau o’i fath yn y DU a thu hwnt oherwydd ei ehangder.

Mae nifer o gyfrolau darluniadol yn cael eu cadw, gan gynnwys Rowe, Pope a Sewell, Gilbert, Boydell a Hanmer, yn ogystal â chyfrol llawn darluniau Charles Knight, Pictorial Shakespeare (1867).

Mae yna gryn dipyn o ymylnodau drwy gydol y cyfrolau yn y casgliad, sydd wedi cael eu harolygu a’u dadansoddi gan Dr Melanie Bigold yn ''The theatre of the book": marginalia and  "mise en page" yng Nghasgliad Llyfrau Prin Caerdydd o Ddramâu'r Adferiad. Caerdydd: Canolfan Ymchwil Olygyddol a Rhyngddestunol, Prifysgol Caerdydd, 2013.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives