Ewch i’r prif gynnwys

Atlasau

Manylion o fap o Ewrop gan Frederico de Wit.
Manylion o fap o Ewrop gan Frederico de Wit.

Hanesion darganfyddiadau'r Byd Newydd ac Asia o'r 16g-19g, yn ogystal â chelfyddyd a thechnoleg cynhyrchu mapiau ac atlasau.

Yn cynnwys atlasau'r byd, Ewrop, Prydain, Cymru ac atlasau arbenigol eraill.

Ymhlith y cyfrolau yng nghasgliad Llyfrau Prin Caerdydd mae argraffiad Saesneg Ortelius o atlas y byd a gyhoeddwyd yn 1606. Ceir yn ogystal argraffiadau cynnar Mercator, Speed, ac Ogilby. Mae Cosmographie Peter Heylyn (1652) yn cael ei gadw mewn nifer o argraffiadau ac yn un o'r ymdrechion cyntaf i ddisgrifio'n fanwl pob rhan o'r byd hysbys, o ddaearyddiaeth i hinsawdd i arferion, gwleidyddiaeth a chredoau.

Mae'r amrywiaeth eang o atlasau Prydeinig a llyfrau'r heolydd yn cynnwys sawl argraffiad o fapiau John Cary o Loegr a Chymru, Britannia, William Camden a chopïau o Atlas Anglicanus Emmanuel Bowen. Roedd hi'n hawdd adnabod mapiau Bowen gan eu bod yn llawn nodiadau hanesyddol a thopograffig. Mae'r atlasau sy'n berthnasol i Gymru yn cael eu cadw yn Llyfrgell Salisbury.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives