Ewch i’r prif gynnwys

Incunabula

Rhan o'r Baptista Trovamala, Incipit summa casuu[m] vtilissima [1488].
Rhan o'r Baptista Trovamala, Incipit summa casuu[m] vtilissima [1488].

Enghreifftiau cynharaf cyhoeddi Ewropeaidd rhwng 1470-1500, yn dangos pynciau o bwysigrwydd yn nyddiau cynnar argraffu.

Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o weithiau sylweddol diwinyddol megis: Catena Aurea Thomas Aquinas, sylwebaeth ar y pedair efengyl a luniwyd drwy ddefnyddio nifer o ddyfyniadau o'r Tadau; gwaith enwog Eidalaidd Sant Augustine, De civitate Dei a'r Compenium revelationum hefyd yn yr iaith Eidalaidd o waith y Dominiciad, Girolamo Savonarola.

Ceir copi o Opus trivium (Lyon, 1500) ag ysgrifennwyd gan y diwinydd Dominicaidd, John Bromyard (m. 1352), sy'n anghyffredin gan fod y copi wedi ei rwymo mewn llawysgrif sgôr cerddorol o'r canol oesoedd. Mae traethodyn moesol gan Johannes Watton (fl. ca. 1360-1370) hefyd yn debygol o fod yn gopi unigryw yn y DU; dim ond un copi arall sy'n bodoli yn y byd hyd y gwyddwn.

Mae yna weithiau athronyddol sy'n cynnwys Summa angelica de casbus conscientiae gan Angelus de Clavasio a De ingenuis moribus gan yr ysgolhaig a'r dyneiddiwr, Petrus Vergerius. Ceir yn ogystal weithiau llenyddol sy'n cynnwys copi o 1492 o waith Macrobius, In somnium scipionis expositoTrionfi, gan Francesco Petrarch (1304-1374) oedd yn gyfres boblogaidd iawn o gerddi gweledigaethol yn arddull Comedi Ddwyfol Dante, wedi'i seilio ar fuddugoliaethau Rhufain. Mae yna dystiolaeth mai'r copi hwn yw'r unig gopi yn y DU.

Gweithiau nodedig eraill yn y casgliad yw'r Fasciculus temporum (Cologne, 1474) gan Werner Rolewinck, a oedd yn waith pwysig am hanes y byd ar ddiwedd y 15g. Mae'r gwaith yn defnyddio dyluniad graffig gwreiddiol sy'n drawiadol iawn. Nid yw'r testun mewn colofnau, yn hytrach, ceir cronolegau niferus wedi'u trefnu ochr yn ochr, yn llorweddol ar draws y tudalennau. Dyma gamp nodedig mewn hanes argraffu a datblygiad pwysig mewn hanesyddiaeth. Yn ogystal ceir llysieulyfrau, gweithiau cyfreithiol a chyfreithiol eglwysig, gramadeg a llefaru, barddoniaeth, daearyddiaeth a hagiograffeg.

Mae tarddiad y gweithiau hyn yn ymestyn ar draws holl brif ganolfannau argraffu cynnar yng Ngorllewin Ewrop, yn cynnwys Fenis, Lyon a Nuremburg. Maent yn Lladin neu Eidalaidd ac nid yw'r casgliad yn cynnwys unrhyw argraffnodau Saesneg, er bod y llyfrgell yn cadw sawl atgynhyrchiad o argraffiadau Caxton a De Worde.

Ceir nifer o enghreifftiau o ymylnodau, yn amrywio o ychydig o eiriau i nodiadau sylweddol. Mae rhai o'r cyfrolau'n cynnwys tudalennau wedi'u hysgrifennu â llaw neu'n defnyddio darnau o lawysgrifau yn y rhwymynnau. Mae nodweddion eraill yn cynnwys darluniau ysgrifbin ac inc, lluniau llachar a llythreniadau.

Mae'r casgliad incunabula yn un o dri chasgliad yn unig o'i fath yng Nghymru. Ni chedwir rhyw 90% o'r incunabula hyn mewn unrhyw le arall yng Nghymru ac mae'r ffaith eu bod yn gopïau anodiadol hefyd yn eu gwneud yn unigryw.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives