Ewch i’r prif gynnwys

Archif W. G. Collingwood

Llun dyfrlliw o Mrs Beever, gan William Gershom Collingwood (1854-1932)
Llun dyfrlliw o Mrs Beever, gan William Gershom Collingwood (1854-1932).

Pori trwy’r catalog ar-lein

Teulu o artistiaid dylanwadol yn ardal y Llynnoedd oedd y teulu Collingwood. Yn eu harchif, ceir gohebiaeth a phapurau personol pedair cenhedlaeth o'r teulu, gan ddechrau gyda'r artist a'r athro William Collingwood (1819-1903). Roedd ei fab William Gershom Collingwood (1854-1932) yn artist proffesiynol hefyd, ac yn Athro Celfyddydau Cain ym Mhrifysgol Reading. Bu i’w gyfeillgarwch â John Ruskin (1819-1900) fod yn fater amlwg o ran ei enwogrwydd. Ceir gohebiaeth gan Ruskin, yn ogystal â llyfrau braslunio a gwaith celf sy'n perthyn i'r ddau ddyn, yn yr archif. Cyhoeddodd W. G. Collingwood nifer o lyfrau, a bu'n cymryd rhan amlwg yng Nghymdeithas Artistiaid Ardal y Llynnoedd. Yn yr archif, ceir gohebiaeth W G. Collingwood, ynghyd â’i lyfrau nodiadau, drafftiau, dyddiaduron a mapiau wedi'u harlunio ganddo.

Roedd gwraig W. G. Collingwood, Edith Mary Isaac (1857-1928), neu 'Dorrie', yn artist uchel ei pharch a hynod lwyddiannus yn fasnachol. Roedd yn arbenigo mewn gwneud paentiadau miniaturaidd. Cedwir ei llyfrau braslunio, a'i 30 dyddiadur yn yr archif – gan gynnwys y rhai y bu’n eu cadw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr archif hefyd, mae dros 700 o lythyrau yr oedd wedi’u hysgrifennu at ei rhwydwaith helaeth o ffrindiau a phobl yr oedd hi’n eu hadnabod, yn ogystal â gohebiaeth helaeth a anfonwyd oddi wrth ei theulu, yr Isaacs. Roedd Arthur Ransome (1884-1967) yn gyfaill agos i'r teulu, a seiliodd ei lyfr Swallows and Amazons ar ei brofiadau yn hwylio gydag wyrion Collingwood, ac mae tua 200 o'i lythyrau at y teulu i'w gweld yn yr archif.

Addysgodd William ac Edith eu plant gartref, a dilynodd y tair merch yn ôl troed artistig eu rhieni mewn gwahanol ffyrdd. Roedd Dora Collingwood (1886-1964) yn arlunydd dawnus ac astudiodd gelf ym Mharis. Priododd feddyg o’r enw Ernest Altounyan, a bu'n byw mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys yn Aleppo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd ei gŵr a'i thad-yng-nghyfraith yn benaethiaid ar ysbyty hyfforddi arloesol, a bu'n eu cynorthwyo i ddarparu cymorth i ffoaduriaid a oedd yn ffoi rhag Hil-laddiad Armenia (1915-23). Roedd Barbara Collingwood (1887-1961) yn gerflunydd uchel ei pharch. Cedwir ei llyfrau braslunio, 50 dyddiadur ac oddeutu 700 o’i llythyrau yn yr archif. Bydwraig oedd merch ieuengaf Collingwood, Ursula Collingwood (1891-1962), hyfforddodd, ac yna bu’n gweithio yn Llundain ac Ardal y Llynnoedd o tua 1912-1925, ond yn y 1940au dechreuodd addysgu celf yn Ysgol Blackwell. O'r 1950au hyd ei marwolaeth, bu'n ffermwr yn Underbarrow yn Ardal y Llynnoedd. Mae unig fab William ac Edith, Robin George Collingwood (1889-1943) yn hanesydd ac athronydd enwog, ac mae hefyd yn adnabyddus am ei waith ym maes archaeoleg. Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i Ganolfan Collingwood a Delfrydiaeth Prydain. Mae rhan o’r ganolfan wedi’i chadw’n arbennig ar gyfer gwaith ymchwil ac ysgrifau R. G. Collingwood Cedwir ei lythyrau a'i ddyddiaduron yn yr archif.

Priododd Barbara Collingwood â’r Uwchgapten Oscar Theodor Gnosspelius (1878-1953), peiriannydd sifil a adeiladodd awyrennau mono (awyren a chanddi un pâr o adenydd yw awyren fono), ac a gynhaliodd arbrofion awyrennol cynnar ar Lyn Windermere. Mae’r manylion ynghylch llawer ohonynt wedi’u nodi yn ei lyfrau nodiadau a'i albymau lluniau. Roedd ganddynt un plentyn, Janet Gnosspelius (1927-2010), oedd yn bensaer a hanesydd. Iddi hi mae’r diolch am gasglu archif ei theulu a gofalu amdano. Mae ei llyfrau braslunio, 50 dyddiadur, oddeutu 200 o lythyrau, ac ymchwil helaeth i hanes y teulu oll wedi’u cadw o fewn y casgliad.

Ailddarganfod Ruskin a Ransome — portread llenyddol, athronyddol ac artistig o Ardal y Llynnoedd

Dyfarnodd Raglen Grantiau Catalogio Archifau Cenedlaethol £38,601 i Brifysgol Caerdydd, er mwyn iddi fynd ati i gwblhau catalogio elfen fwyaf cymhleth yr archif yn fanwl – sef tua 4,000 o lythyrau oedd wedi’u hanfon yn ôl ac ymlaen rhwng pedair cenhedlaeth o'r teulu a'u cylch eang o ffrindiau a chydnabod. Bu cryn gystadlu am yr arian hwn, ac roedd y Brifysgol yn un o’r wyth ymgeisydd llwyddiannus; yn wir derbyniodd y Brifysgol grant mwyaf sylweddol y rhaglen yn 2016.

Yn ogystal â'r ohebiaeth, mae’r casgliad y cynnwys llyfrau prin, cardiau post, dogfennau cyfreithiol, ffotograffau, brasluniau, paentiadau, a dyddiaduron oedd wedi’u hysgrifennu a’u creu dros gyfnod o dair canrif.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar ein casgliadau.

Special Collections and Archives