Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddiadau a phapurau newydd myfyrwyr Coleg a Phrifysgol Caerdydd

Clawr y cylchgrawn 'Cap and Gown'.
Clawr y cylchgrawn 'Cap and Gown'.

Porwch y catalog ar-lein.

Cylchgronau a phapurau newydd a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a’u hymgorfforiadau amrywiol. Maent yn cynnwys:

  • University College magazine, 1885-87
  • Magazine of the University College of South Wales and Monmouthshire, 1888-1903
  • Cap and Gown, 1903-1966
  • Pen and Pencil, 1934
  • The Wail, 1926-1965
  • Broadsheet, 1946-1971
  • Hard Times, 1974-1976
  • Snout, 1970s
  • Cardiff Link, 1977-78
  • Gair Rhydd, 1972-current.

Mae cyhoeddiadau eraill wedi’u cynnwys o Gymdeithas Undeb y Myfyrwyr; cymdeithasau myfyrwyr amrywiol a Sefydliad Cyn-fyfyrwyr, 1920-66.

Mae cofnodion swyddogol yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd a’i rhagflaenwyr yn cael eu cadw yn Archifau Sefydliadol ac o dan gyfrifoldeb Rheolwr Cofnodion y Brifysgol. Ymhlith rhain, mae cylchgrawn myfyrwyr y Coleg Meddygol,  'The Leech.'

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives