Ewch i’r prif gynnwys

Archif Edward Thomas

Edward Thomas (1878-1917), bardd a beirniad.
Edward Thomas (1878-1917), bardd a beirniad.

Porwch y catalog ar-lein neu weld yr arddangosfa.

Archif bersonol yn anarferol o eang a manwl gan un o feirdd y rhyfel, sy’n llai adnabyddus gan gynnwys:

  • Gohebiaeth gan deulu a ffrindiau, 1892-2004
  • Cerddi llawysgrif a theipysgrif wreiddiol 1898-1917
  • Gwaith rhyddiaith 1895-1917
  • Dogfennau gwreiddiol o eiddo Edward Thomas 1897-1917
  • Papurau o eiddo teulu a ffrindiau Edward Thomas’, 1853-1989
  • Papurau yn gysylltiedig â’r garreg goffa, ffenestr goffa, dathliadau canmlwyddiant a bywgraffiadau ac atgofion gan deulu a ffrindiau 1896-2008
  • Casgliad o effeithiau bersonol a memorabilia
  • Lluniau, daguerreotypes, negatifau, paentiad olew, dyfrlliwiau, printiau a llungopïau o weithiau celf o eiddo Teulu’r Thomas, 1850-1987
  • Rhestr o lyfrau, adolygiadau, traethodau ac erthyglau gan Edward Thomas, llyfrau ac erthyglau am Edward Thomas, adolygiadau o lyfrau Edward Thomas a chynnwys llyfrgell deuluol Thomas.
  • Nodiadau ymchwil y cofiannydd R.George Thomas 1950-2001
  • Dogfennau yn gysylltiedig â hanes adeiladau casgliad Edward Thomas a’i ddefnydd gan ymchwilwyr wedi hynny, 1950-2010. Mae’r ffeiliau gohebiaeth wedi cau o dan y Ddeddf Gwarchod Data.
  • Casgliad nodedig o bron i bob gwaith cyhoeddedig gan Edward Thomas a beirniadaeth lenyddol gysylltiedig.

Archif bersonol yn anarferol eang a manwl gan un o feirdd y rhyfel, sy’n llai adnabyddus. Yn ogystal â phapurau ac eiddo Edward Thomas, mae’r archif yn cynnwys papurau gan deulu a ffrindiau yn ei gylch llenyddol, a fydd o ddiddordeb i ysgolheigion yn ymchwilio bywyd a gwaith Gordon Bottomley, Robert Frost, Walter de la Mare, W. H. Davies a Sylvia Townsend Warner.

Mae nifer o bapurau Edward Thomas yn cael eu cadw mewn nifer o storfeydd ar draws y DU, UDA a Chanada gan gynnwys:

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
  • Canolfan Ymchwil y Dyniaethau Harry Ransom, Prifysgol Texas yn Austin.
  • Llyfrgell Coleg Lincoln, Prifysgol Rhydychen
  • Llyfrgell Prifysgol British Columbia
  • Llyfrgell Bodleian
  • Coleg Eton
  • Adran Palace Green o Lyfrgell Prifysgol Durham
  • Ysgol King’s, Caergaint
  • Llyfrgell Gwasanaeth Hanes Lleol Wandsworth
  • Casgliadau Llawysgrifau'r Llyfrgell Brydeinig.

O ganlyniad i ymchwil a gynhaliwyd gan Dr R.George Thomas, Athro Saesneg Prifysgol Caerdydd, roedd casgliad mawr o lungopïau, llawysgrifau a nodiadau o gasgliadau llyfrgelloedd eraill wedi cronni. Oherwydd hyn, dyma'r casgliad mwyaf unigol o ddeunydd yn gysylltiedig ag Edward Thomas a’i deulu. Mae llyfrgell bersonol Edward Thomas a chasgliad cynhwysfawr o’i waith cyhoeddedig yn cael eu cadw yma hefyd.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives