Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb ym mhob un o'n harferion a'n gweithgareddau.

Ein nod yw sefydlu diwylliant cynhwysol a chroesawgar sy’n sicrhau cyfle cyfartal i staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred arall, a chefndir sosio-economaidd.

Ar hyn o bryd, tua 15-20% o’n myfyrwyr israddedig sy’n fenywod. Mae hyn yn cyfateb i 8-10 o fyfyrwyr mewn grŵp o 50-60. Mae 63% o’n grŵp MSc Peirianneg Meddalwedd cyntaf yn fenywod.

Mae dros hanner ein staff academaidd yn fenywod, gan gynnwys ein Harweinydd Academaidd.