Ewch i’r prif gynnwys

Ail-lunio cyfraith iaith yng Nghymru

Angen eglurder a chysondeb, a sicrhau cydymffurfio, ym maes rheoleiddio’r Gymraeg.

Welsh books

Erbyn 2008, nid oedd y polisi ynglŷn â'r Gymraeg yn gallu sicrhau gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog cyson yng Nghymru. Bu'r ymchwil yn Ysgol y Gymraeg yn gymorth i wneuthurwyr polisi yn y DU a Llywodraeth Cymru ddeall gwendidau ac anghysonderau'r drefn iaith a fodolai ar y pryd.

[roedd y gwaith] ... yn gwbl allweddol i’r diwygiadau roedd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ynghylch sefydlu trefn iaith newydd yng Nghymru.

Meirion Prys Jones Cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Creu trefn reoleiddio newydd

Gwelodd ein hymchwilwyr fod pum problem yn gysylltiedig â'r Cynlluniau Iaith Gymraeg a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Gwelsant fod diffyg gallu ac adnoddau gan sefydliadau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog; diffyg cofleidio'r cynlluniau gan uwch-reolwyr; anghysonder o ran cymryd camau cywiro erbyn dyddiadau cau penodedig; dim digon o gyfleu amcanion polisi'n fewnol, a monitro gwael ar weithredu a diweddaru'r cynlluniau iaith. I helpu i ddatblygu deddfwriaeth iaith newydd a threfn iaith amgen, aeth y tîm ati'n systematig i ymchwilio i elfennau'r arferion gorau mewn meysydd polisi eraill yn y DU, ac ym mhrofiadau gwledydd eraill, drwy gyfweld ag uwch-weision sifil, gwleidyddion lleol a chenedlaethol, cynghorwyr cyfreithiol, swyddogion iaith ac arbenigwyr academaidd.

Profiadau rhyngwladol

Rhan o'r ymchwil, hefyd, oedd bwrw golwg manwl ar hawliau ieithyddol, ar swydd Comisiynwyr Iaith Canada ac Iwerddon ac ar y systemau rheoleiddio iaith yng Nghatalunya a Gwlad y Basg.

Newid y gyfraith

Bu'r ymchwil yn allweddol wrth sicrhau newidiadau yn y polisi mewn pedwar prif faes: y cyfrifoldeb deddfwriaethol dros y Gymraeg; gosod set o Safonau newydd yn lle'r Cynlluniau Iaith; cyflwyno swydd Comisiynydd y Gymraeg; a gweithrediad dwyieithog Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hun. Bu'r ymchwil yn hollbwysig o ran datganoli cymhwysedd deddfwriaethol dros bolisi ynglŷn â'r Gymraeg o Senedd y DU i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2009. Yn sgil hynny, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyfres o Safonau'r Gymraeg i ddisodli'r Cynlluniau Iaith, ac fe basiodd Ddeddf Ieithoedd Swyddogol sy'n berthnasol i weithrediad y Cynulliad Cenedlaethol ei hun. Ar Ebrill 1, 2012, cymerodd Comisiynydd newydd y Gymraeg le Bwrdd yr Iaith Gymraeg.


Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig

Siarad Cymraeg
Email
macgiollachriostd@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9180
Yr Athro Colin H Williams

Yr Athro Colin H Williams

Athro er Anrhydedd

Siarad Cymraeg
Email
williamsch@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0413

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.