Simon Murphy
Mae sawl her yn gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd, yn enwedig dod o hyd i ddulliau cost-effeithiol ac ymgorffori tystiolaeth mewn polisïau ac ymarfer.
Mae’r sefyllfa yn amlwg wrth gymharu iechyd y cyhoedd â meddygaeth glinigol. Yn aml, cyd-leolir ymchwilwyr ac ymarferwyr meddygaeth glinigol. Mewn gwirionedd, yr un unigolyn ydyn nhw fel arfer.
Anaml y ceir sefyllfa o’r fath yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd gan ein bod yn gweithio ar draws amrywiaeth o feysydd polisi a rhanddeiliaid, ac mae diffyg isadeiledd data. Llunnir polisïau yn aml gan gredoau gwleidyddol, trafod yn y cyfryngau a’r angen i gael eich gweld yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn gyflym. Mae pobl yn awyddus i beidio â chael eu cysylltu â pholisïau sydd wedi methu yn y gorffennol. Gall hyn arwain at gyflwyno polisïau nad oes neb yn siŵr o’u gwerth a allai fod yn niweidiol.
Rydw i’n arwain Rhwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, sy’n helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn. Y rhwydwaith cyntaf o’i fath yn y DU, mae’n dwyn ynghyd llunwyr polisïau, ymarferwyr, ymchwilwyr a’r cyhoedd i gynyddu maint ac ansawdd ymchwil gwella iechyd y cyhoedd, ac mae hefyd yn hyrwyddo’r broses o’i rhoi ar waith.
Mae wedi cynnal treialon polisi cenedlaethol mawr eu hangen yn ogystal ag amlygu ymyriadau effeithiol. Fe wnaethom roi’r dystiolaeth ar gyfer cyflwyno cyfyngiadau ar ysmygu mewn ceir, nodi manteision cynllun ymarfer corff cenedlaethol, yn ogystal â dangos bod y cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd ymhlith yr ychydig bolisïau yn y DU oedd yn gwella iechyd y boblogaeth ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae’r rhwydwaith wedi cynhyrchu dros £32 miliwn i Gymru mewn incwm ymchwil ac wedi cefnogi sefydlu rhwydweithiau tebyg yn Awstralia a Gogledd Iwerddon. Mae hefyd wedi gosod y sylfeini ar gyfer DECIPHer, partneriaeth arall yr ydw i’n ei harwain. Mae'n un o’r pum canolfan Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd Cyhoeddus, Cydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU. Partneriaeth rhwng Prifysgol Bryste a Phrifysgol Abertawe yw DECIPHer, ac mae’n canolbwyntio ar wella iechyd plant a phobl ifanc.
Rydw i hefyd wedi sefydlu Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion cenedlaethol cyntaf y byd gyda phartneriaid ledled Cymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU. Rydym wedi datblygu seilwaith data hynod gyffrous ac unigryw, sy’n mesur gweithgareddau ysgol a deilliannau iechyd disgyblion ddwywaith y flwyddyn. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio mewn ysgolion, awdurdodau lleol a llywodraethau rhanbarthol, ac mae’n darparu fframwaith cost-effeithiol ar gyfer astudiaethau gwerthusol a chyflwyno polisïau newydd.
Rydym wedi sefydlu partneriaethau strategol, hybu ymddiriedaeth a chyd-fuddion drwy brosiectau llwyddiannus, adeiladu adnoddau amlddisgyblaethol ac annog gweithio traws-ddisgyblaethol drwy secondiadau a chyd-leoli.
Rydym wedi ymrwymo i gylch cyson o ymgysylltu sy’n nodi bylchau mewn tystiolaeth a chwestiynau ymchwil perthnasol, yn ogystal â chyd-gynhyrchu astudiaethau ymchwil ac ymyriadau, a phartneriaethau er mwyn rhoi ymyriadau cynaliadwy ar waith.
O ganlyniad i lwyddiant y rhwydweithiau hyn, mae gan Gymru system arloesedd unigryw gyda photensial sylweddol i ddiwallu anghenion iechyd y genedl a darparu polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y DU a thu hwnt.
Gwrandewch ar Simon Murphy wrth iddo drafod gwella iechyd plant yng Nghymru.
Mae SPARK yn diweddaru’r model parc gwyddorau, sy’n caniatáu ymchwilwyr i weithio’n greadigol gyda phartneriaid ar heriau’r gymdeithas.