Ewch i’r prif gynnwys

Molly Courtenay

Molly Courtenay

Nid oedd disgwyliadau fy nghyd-ddisgyblion yr ysgol uwchradd yn arbennig o uchel. Roeddwn i'n debygol o fynd i weithio yn y ffatri crancod ar ôl gadael ysgol yn 15 oed.

Cefais fy annog gan fy mam i wneud cais am le yn y coleg technegol cyfagos. Yna, astudiais radd nyrsio yn Leeds, MSc mewn nyrsio yn Kings, a PhD ym Mhrifysgol Reading. Pryd bynnag mae rhywun yn dweud 'fedri di ddim gwneud hynny', rwy'n credu fy mod wedi ymateb 'ond rwy'n gallu, ac rwy'n mynd i'w wneud!'.

Drwy gydol fy ngyrfa rydw i wedi bod yn angerddol ynglŷn ag ehangu rôl gweithwyr gofal iechyd anfeddygol: nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Datblygiad cymharol ddiweddar yw bod modd i'r gweithwyr proffesiynol hyn ragnodi meddyginiaethau; mae rhai'n ystyried y syniad o weithwyr gofal iechyd anfeddygol yn rhagnodi meddyginiaethau braidd yn ddadleuol.

Rydw i wedi cael mwy na £1m o arian ymchwil gan y diwydiant fferyllol i arwain a datblygu'r trefniadau ar gyfer galluogi gweithwyr gofal iechyd anfeddygol i ragnodi. Pam ofynnais i am arian gan y diwydiant fferyllol? Mae llwybrau cyllido traddodiadol yn gystadleuol, felly penderfynais ddod o hyd i ffynonellau eraill. Roedd cydweithio â byd diwydiant yn gwneud synnwyr i mi.

Wrth wneud cais, mae angen i chi ystyried safbwynt y cwmni. Sut maen nhw'n elwa arno? Yn gyffredinol, nid oes gan gwmnïau ddiddordeb mewn methodoleg/dulliau trwyadl na chyfnodolion dylanwadol, felly mae'n rhaid cydbwyso ymagwedd academaidd a chraffter busnes – dau beth nad ydynt bob amser yn cyd-fynd!

Rwy'n rhwydweithiwr ac yn gyfathrebwr da, sy'n helpu i chwalu rhwystrau. Rydw i wedi cael amrywiaeth o rolau mewn sefydliadau cenedlaethol a phwyllgorau cynghori, yn y gorffennol ac ar hyn o bryd, megis y Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, sydd wedi helpu i agor drysau.

"Mae gweithio gyda byd diwydiant yn gyffrous. Mae pobl y tu allan i'r byd academaidd yn meddwl yn wahanol, ac rydw i wedi elwa mwy ar y mentrau cydweithredol hyn nag unrhyw ffynonellau cyllid eraill. Maen nhw wedi cynnig cyllid cyflym ar fwy nag un achlysur i gynnal ymchwil i Ragnodi Anfeddygol, gan gynyddu fy nealltwriaeth o fyd diwydiant a defnyddio eu rhwydweithiau i sicrhau bod fy nghanfyddiadau'n cyrraedd cynulleidfa fwy eang."

Yr Athro Molly Courtenay Athro Gwyddorau Iechyd

Mae hyn wedi bod yn fater o ddod o hyd i'r person cywir, yn y cwmni cywir, sydd wedi bod yn gefnogol i fy ngwaith ymchwil. Nid yw hyn bob amser yn hawdd. Yn aml, mae'r person 'cywir' wedi dod ataf fi – naill ai ar ôl cyflwyniad gen i, neu drwy rywun sy'n gysylltiedig â'r ddau ohonom –  ac mae ganddyn nhw ddiddordeb go iawn yn fy ymchwil.

Nid gormodiaith yw dweud bod manteision Rhagnodi Anfeddygol yn enfawr. Ar adeg pan mae'r GIG yn colli miliynau o bunnoedd bob dydd, dylai hyn gael ei ystyried ar draws yr holl wasanaethau gofal iechyd. Mae cyflawni hynny'n golygu herio safbwyntiau hirsefydledig ynglŷn â rolau unigol. Drwy chwalu rhagdybiaethau, llwyddodd merch fyddai wedi gweithio mewn ffatri crancod i ddod yn Athro ag enw da yn rhyngwladol mewn prifysgol Grŵp Russell. Heriwch eich hun i fod yn wahanol, a pheidiwch â derbyn 'na' fel ateb!