Ewch i’r prif gynnwys

Jenny Kitzinger

Professor Jenny Kitzinger

Mae'r syniad bod fy ngwaith ymchwil yn gwneud gwahaniaeth wedi ymdreiddio'n ddwfn ynof.

Dim ond yn fenyw ganol oed rwyf wedi sylweddoli bod y dybiaeth hon wedi'i llunio gan fy magwraeth. Bu fy nhad yn hyrwyddo dewrder pobl mewn ardaloedd lle’r oedd gwrthdaro yn digwydd, ac fe dreuliodd fy mam ei bywyd yn brwydro dros hawliau menywod a gweddnewid dulliau geni plant.

Dewisais astudio Anthropoleg Gymdeithasol yn y brifysgol, oherwydd fy niddordeb yn y ffordd y mae normau diwylliannol yn cael eu cynnal a'u gweddnewid. Deuthum yn ymchwilydd contract yn y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol yng Nghaergrawnt yn gyntaf, ac yna yng Ngrŵp Cyfryngau Glasgow. Roedd gwaith contract am 15 mlynedd yn golygu bod datblygu canfyddiadau ymhellach yn dalcen caled wrth i mi symud o un prosiect i'r llall. Fodd bynnag, oherwydd hyn roeddwn yn gallu dylunio fy mhrosiectau fy hun gyda help ESRC ac Ymddiriedolaeth Wellcome.

Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi mynd ar drywydd fy niddordebau a mynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol, o bwyso a mesur yr argyfwng AIDS (ar adeg pan oedd gwahaniaethu gwrth-hoyw yn arferol iawn) i ymchwilio i gam-drin plant yn rhywiol (ar adeg pan oedd pawb yn amharod i gydnabod y gallai pethau o'r fath ddigwydd o gwbl). Yn ddiweddarach, roedd fy ngwaith yn canolbwyntio ar ddadleuon ynghylch risg a thechnolegau newydd, a chynrychiolaeth moeseg ac ymchwil genetig dynol.

Mae fy ngwaith fwyaf diweddar yn edrych ar y driniaeth ar gyfer cleifion sydd ag anafiadau trychinebus i'r ymennydd. Rwyf bellach yn gweithio ochr yn ochr â'm chwaer, yr Athro Celia Kitzinger o Brifysgol Efrog. Ysgogwyd ein diddordeb gan yr hyn a ddigwyddodd i'n chwaer, Polly Kitzinger, ar ôl damwain car yn 2009. Bu i'r profiad parhaus hwn arwain i mi a Celia ymchwilio i farn teuluoedd eraill a phwyso a mesur y credoau a'r gwerthoedd sy'n llunio ymatebion amrywiol i'r mathau mwyaf difrifol o anaf i'r ymennydd. Rydym hefyd yn dadansoddi'r bwlch rhwng cynrychiolaeth y cyfryngau o gyflwr 'coma' a realiti cyflwr o'r fath, ac yn archwilio arferion cyfreithiol a meddygol sy'n llunio'r penderfyniadau a gaiff eu gwneud ynghylch y cleifion hyn.

Gweld gwaith yr Athro Kitzinger sydd wedi ennill gwobrau.

Rwyf fi a Celia bellach yn cyd-gyfarwyddo'r ganolfan ymchwil 'Coma ac Anhwylderau Ymwybod,' gan weithio gyda chydweithwyr ym meysydd athroniaeth, y gwyddorau iechyd, hanes, llenyddiaeth, cymdeithaseg ac economeg. Rydym wedi troi ein hymchwil yn adnodd aml-gyfrwng ar-lein ar gyfer teuluoedd ac ymarferwyr gofal iechyd. Mae ein gwaith wedi llywio canllawiau newydd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr, ac wedi cael ei ddyfynnu mewn adroddiad gan Dŷ'r Arglwyddi ac mewn sesiwn briffio i Aelodau Seneddol ar gyflyrau diymateb a lled-ymwybodol.

Rwyf wrth fy modd bod ein gwaith ymchwil wedi ennill gwobrau ar gyfer 'Effaith mewn Cymdeithas' (gan ESRC) ac 'Effaith ar Bolisi' (Prifysgol Caerdydd). Credaf y gallai'r 'agenda effaith', er ei holl broblemau, annog dadl gyhoeddus ac ymholiad deallusol cydweithredol i helpu i ddatrys materion cymhleth. Mae Prifysgol Caerdydd wedi rhoi cyd-destun ffrwythlon i ddatblygu dulliau gweithredu arloesol. Bob tro y teimlaf fod yr heriau yn fy llethu, daw cyfle newydd i wneud rhywbeth arloesol. Dyna sy'n gwneud i mi ddal ati a dechrau o'r newydd. Mae'n caniatáu i mi barhau i ddysgu, ac yn rhoi cyfle i mi wneud gwahaniaeth.

Yr Athro Kitzinger yn trin a trafod arddangosfa 'Ymwybod a Choma.'