Ewch i’r prif gynnwys

Creu’r Dychymyg Trefol: Ffotograffiaeth, Dirywiad a Dadeni

Care for Detroit, Grand Circus Detroit, 2012. Wes Aelbrecht
Care for Detroit, Grand Circus Detroit, 2012. Wes Aelbrecht

Mae’r llyfr hwn gan y darlithydd mewn Hanes Pensaernïol, Wesley Aelbrecht, yn trafod creu tri “dychymyg trefol” gwahanol yn ystod dau gylch o ailddatblygu trefol: adnewyddu trefol (1940au-1960au) a dadeni trefol (1970au-1990au) yn Chicago a Detroit.

Mae’n defnyddio amrywiaeth eang o ddelweddau at y diben hwn: ffotograffau, ffilmiau, mapiau, graffiau a murluniau. Mae’n ystyried sut cafodd y delweddau hyn eu defnyddio gyntaf ar gyfer ymchwil, addysg a hyrwyddo. Roedd hyn i fod i arbed y ddinas rhag darfodiad; ac yn hwyrach ar gyfer actifiaeth gymdeithasol a gwleidyddol er mwyn cael cefnogaeth ar gyfer cadw a chynnal tirnodau a chymunedau. Er mwyn astudio sut mae “dychmygau trefol” yn llywio ailadeiladu’r ddinas, mewn geiriau eraill, sut mae delweddau’n llunio meddyliau, gweithredoedd a rhyngweithiadau a allai gyfiawnhau un modd o adeiladu dinasoedd dros un arall, mae’r llyfr yn canolbwyntio’n bennaf ar y cysylltiadau gweledol a materol rhwng delweddau, y ddinas a’i dinasyddion.

Yn ystod y cyfnod o adnewyddu trefol (1940au-1960au), mae’r llyfr yn archwilio sut gwnaeth Cynghorau Dinasyddion yn Detroit a Chicago ddefnyddio delweddau o ddadfeilion fel “cyhoeddusrwydd diwygio” er mwyn codi ymwybyddiaeth sefydliadau preifat, sefydliadau cyhoeddus ac unigolion i gefnogi a helpu i drefnu clirio a gwerthu lleiniau mawr o dir i ddatblagwyr preifat. I’r gwrthwyneb, yn ystod y cyfnod o ddadeni trefol (1970au-1990au), mae’r llyfr yn olrhain sut gwnaeth parterniaethau cyhoeddus-preifat gynhyrchu delweddau o adeiladau eiconig, nenlinellau a gwyliau amlddiwylliannol i baratoi’r ffordd ar gyfer ymdrechion i adfywio canolau’r dinasoedd. Ond hyd yn oed wrth i ymgyrchoedd dros hybu dadeni canol trefi geisio creu cymuned o gredwyr (a defnyddwyr yn y pendraw), daeth delweddau o ddirywiad i’r fei eto, a ddyrannwyd gan unigolion a grwpiau a greodd ddychymyg pwerus i’r gwrthwyneb er mwyn sbarduno gwrthwynebiad poblogaidd i ddinistrio adeiladau, cymdogaethau a chymunedau.

Cysylltu

Dr Wesley Aelbrecht

Dr Wesley Aelbrecht

Lecturer in the History and Theory of Architecture

Email
aelbrechtw@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5962