Festivals Research Group
Investigating the social, economic and environmental impact of festivals.
Archwilio effaith cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gwyliau.
Sefydlwyd y Grŵp Ymchwil Gwyliau (FRG) ddechrau 2016 i ddwyn ynghyd academyddion a phobl greadigol i ymgymryd ag ymchwil gydweithredol yn y sîn wyliau, ac i ystyried cwestiynau pwysig ynglŷn â dyfodol gwyliau.
Mae gwyliau'r DU yn chwarae rhan sylweddol yn niwylliant ac economi Prydain. Mae cynulleidfaoedd gwyliau yn parhau i dyfu ac mae tirwedd yr ŵyl, yn drefol ac yn wledig, yn ddeinamig ac amrywiol. Cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19), roedd y farchnad gwyliau a chyngherddau cerddorol yn y DU werth tua £2.6 biliwn gyda thros chwarter o oedolion y DU yn mynd i o leiaf un ŵyl gerddorol y flwyddyn (Mintel 2019). Er enghraifft, yn 2018, mynychodd 338,000 o dwristiaid domestig a 25,000 o dwristiaid tramor gyngherddau a gwyliau cerddorol yng Nghymru a gwario tua £124 miliwn (UK Music 2019). Yn ogystal â'u pwysigrwydd economaidd, mae gwyliau'n cyfrannu'n gymdeithasol a diwylliannol, gan greu ymdeimlad o berthyn a lle, gan ddatblygu hunaniaeth a lles unigolion trwy brofiadau cofiadwy. Gall gwyliau hefyd gael effeithiau amgylcheddol negyddol posibl.
O ganlyniad i'r pandemig coronafeirws (COVID-19) byd-eang, mae gwyliau cerddorol a chelfyddydol wedi'u canslo ar lefel ddigynsail. Yn ystod 2020, cafodd mwy na 250 o ddigwyddiadau eu canslo neu eu gohirio (eFestivals 2020) gyda llawer o ganslo pellach yn 2021. Mae trefnwyr a chynulleidfaoedd gwyliau wedi dod yn ansicr ynghylch profiadau gwyliau’r dyfodol, yn enwedig os yw’r mesurau ymateb i’r pandemig yn parhau i effeithio ar dyrfaoedd mawr.
Mae gwerth gwyliau yn ymestyn y tu hwnt i'w heffaith economaidd. I'w miloedd o fynychwyr a chrewyr maent yn rhan hanfodol o ddiwylliant Prydain ac yn rhan o'n treftadaeth anniriaethol. Mae ymchwil yn dangos bod gan wyliau rôl bwysig o ran cydlyniant cymdeithasol a lles, gan adeiladu ymdeimlad cryf o hunaniaeth a pherthyn ymhlith eu cymunedau ffyddlon, aml-genhedlaeth, a gellir eu gweithredu fel 'asiantau newid', er enghraifft wrth hyrwyddo arferion gwyrddach a chynaliadwy (Alonso-Vazque 2016, Powerful Thinking 2018).
O ystyried newidiadau economaidd, cymdeithasol a thechnolegol, ac absenoldeb tyrfaoedd mawr, sut olwg fydd ar wyliau'r dyfodol? Sut y cânt eu trefnu, eu mwynhau, eu canfod a'u datblygu? A sut y byddant yn effeithio ar gymdeithas a'r amgylchedd?
Ein ffocws
Ffocws allweddol FRG yw gwyliau cerddorol a chelfyddydol; mae gan aelodau’r grŵp ymchwil brofiad sylweddol o weithio gyda ac mewn gwyliau fel Glastonbury, y Dyn Gwyrdd, Gŵyl y Gelli a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â digwyddiadau bwyd. Mae FRG yn awyddus i gysylltu ymchwil academaidd â phrofiadau mynychwyr yr ŵyl, trefnwyr, perfformwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae gwyliau hefyd yn cyflwyno gwahanol lwyfannau i ymchwilwyr ar gyfer ymgysylltu a rhannu ymchwil trwy ddulliau cyfranogol.
Ein tîm
Mae FRG rhyngddisgyblaethol Prifysgol Caerdydd yn cynnwys staff o Ysgol Busnes Caerdydd, yr Ysgol Gerdd, yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yr Ysgol Hanes, Archeoleg ac Astudiaethau Crefyddol, a'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant. Rydym hefyd yn gysylltiedig â Rhwydwaith Ymchwil Greadigol Caerdydd. Mae aelodau'r grŵp wedi cynnal sawl astudiaeth gŵyl gan gynnwys Gŵyl Sŵn, yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Gyflymder Goodway. Mae'r ymchwil gydweithredol hon wedi gwella ein dealltwriaeth o gynulleidfaoedd gwyliau, eu profiadau a'u hymddygiadau, a sut y gall gwyliau a gwylwyr leihau eu hôl troed amgylcheddol.
Mae gan ein tîm ymchwil rhyngddisgyblaethol arbenigedd mewn marchnata gwasanaethau, ymddygiad defnyddwyr, y cyfryngau cymdeithasol a ffans cerddoriaeth, treftadaeth ac archeoleg gyfoes, daearyddiaeth ddynol a chynaliadwyedd. Er 2012, rydym wedi cynnal ymchwil ar ystod o wyliau'r DU, gan gynnwys cerddoriaeth, llenyddiaeth, diwylliant a bwyd. Mae gennym hanes o gydweithio â threfnwyr gwyliau (gan gynnwys Gŵyl Lenyddiaeth y Gelli, Glastonbury, y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Swn, yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Gyflymder Goodway) a rhwydwaith helaeth o gysylltiadau allweddol mewn gwyliau, cyrff anllywodraethol, llywodraeth genedlaethol a lleol (ee. AIF, AGF, Digwyddiadau Cymru). Mae gennym brofiad helaeth o gynnal dadansoddiad effeithiol sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa gan archwilio profiadau, hanes a chanlyniadau amgylcheddol gwyliau. Mae gennym sgiliau ymchwil mewn cyfweld, arolygon ar raddfa fawr (ar-lein ac wyneb yn wyneb), dyddiaduron digidol, dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol, ymgynghori cymunedol a mapio mewn partneriaeth â gwyliau a rhanddeiliaid.
Prosiect peilot
Ym mhrosiect peilot FRG gwelwyd ymchwilwyr Caerdydd yn gweithio gyda John Rostron a Gŵyl Sŵn. John oedd cyd-sylfaenydd Sŵn, ac mae'r ŵyl gerddoriaeth gyfoes drefol flynyddol hon yn digwydd bob mis Hydref mewn lleoliadau ledled Caerdydd. Yn 2016 dathlodd 10 mlynedd o wneud i'r ddinas ddod yn fyw. Roedd John hefyd yn Is-gadeirydd Cymdeithas y Gwyliau Cerddorol Annibynnol, sydd ar hyn o bryd yn cynnal ei chyngres flynyddol yng Nghaerdydd. Derbyniodd FRG gyllid sbarduno gan REACT(y fenter Ymchwil a Menter yn y Celfyddydau a Thechnoleg Greadigol a ariennir gan AHRC) i archwilio effaith gŵyl Sŵn ar y cynulleidfaoedd, y ddinas a'r sîn gerddoriaeth.
Ymchwil
Ar hyn o bryd mae'r rhai yn y grŵp ymchwil yn cymryd rhan mewn prosiectau ac allbynnau ar y cyd. Gweler isod am ddetholiad o waith blaenorol gan rai o'r ymchwilwyr.
Blogiau:
- Mae Dr Jacqui Mulville hefyd wedi cyhoeddi darn mynediad agored ar gyfer The Conversation: 'What will future archaeologists think of Glastonbury?'.
- Dr Nicole Koenig-Lewis - Blog ar Ddyfodol Gwyliau: https://www.creativecardiff.org.uk/festivals/festival-show-must-go-online
- Blog Ysgol Busnes Caerdydd, Hyfryd ac unigryw: Profiad CUROP yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, http://blogs.cardiff.ac.uk/business-school/2019/04/25/wonderful-and-unique-our-curop-experience-at-the-national-eisteddfod-of-wales/
- Grŵp Ymchwil Gwyliau - A spotlight on Sŵn Music Festival http://blogs.cardiff.ac.uk/creative-economy/2017/04/03/a-spotlight-on-swn-music-festival-report-launch/
- Dr Andrea Collins, Save the planet one festival at a time, The Conversation, https://theconversation.com/save-the-planet-one-festival-at-a-time-60802
Fideo:
Cyhoeddiadau academaidd a chyflwyniadau cynhadledd dethol (yn ôl blwyddyn):
- Brayshay, B. and Mulville, J. Festivals (yn y wasg) Monument making, mythologies and memory. Festivals – Monument making, mythologies and memory. Yn 'Inside Festival Cultures' Goln, M. Nita a J. Kidwell. Palgrave MacMillan, Llundain.
- Koenig-Lewis, N., Palmer, A. ac Asaad, Y. (2021), “Linking engagement at cultural festivals to legacy impacts”, Journal of Sustainable Tourism, Rhifyn Arbennig ar Ddigwyddiadau a Chynaliadwyedd. Ar gael ar-lein 8 Chwefror 2021. DOI: https://doi.org/10.1080/09669582.2020.1855434
- Brayshay, B. a Mulville, J., 2020, Festival CHAT,, https://festivalchat2020.wordpress.com/2020/10/17/festivals-monument-making-mythologies-and-memory/, Cynhadledd Contemporary and Historical Archaeology in Theory, ar-lein, 3-30 Hydref 2020.
- Collins, A. a Potoglou, D. 2019. Factors influencing visitor travel to festivals: Challenges in encouraging sustainable travel. Journal of Sustainable Tourism 27(5), t. 668-688. (10.1080/09669582.2019.1604718)
- Mulville, J. a Brayshay, B. 2019 ‘Festivals – Where Worlds Collide’ yn ‘Inside Festival Cultures: Fields, Bodies, Ecologies’, Prifysgol Birmingham. 16-17 Mai,
- Collins, A. a Cooper, C. 2017. Measuring and managing the environmental impact of festivals: The contribution of the Ecological Footprint. Journal of Sustainable Tourism 25(1), t. 148-162. (10.1080/09669582.2016.1189922
- Hill, S., Mulville, J.; Koenig-Lewis, N., Thomas, I., Murray, S., O’Connell, J. (2017), ‘One Weekend in October: The Sŵn Festival, Cardiff, Papur a gyflwynwyd yng Nghynhadledd CHIME “Music, Festivals, Heritage” 25-28 Mai 2017, a drefnwyd gan Archif Jazz Siena Archive, yr Eidal 25-28 Mai 2017.
- Koenig-Lewis, N. a Palmer, A. 2017. Identifying customer behaviour segments based on a hierarchy of engagement - an exploratory study of a music festival. Cyflwynwyd yn: 25ain ICRM (Colocwiwm Rhyngwladol mewn Marchnata Perthynas), Munich, yr Almaen, 12-14 Medi 2017.
- Koenig-Lewis, N., Organ, K. a Palmer, A. 2015. The 'ladder of engagement' to building lasting customer relationships. Cyflwynwyd yn: 15fed ICRM (Colocwiwm Rhyngwladol mewn Marchnata Perthynas), Ysgol Fusnes Hanken, y Ffindir, 15fed i 17eg Medi 2015.
- Organ, K., Koenig-Lewis, N. a Palmer, A. 2015. The 'ladder of engagement' - an empirical study of its link to loyalty. Cyflwynwyd yng: Nghynhadledd yr Academi Farchnata 2015, Limerick, Iwerddon, 7-9 Gorffennaf 2015.
- Organ, K. et al., 2015. Festivals as agents for behaviour change: A study of food festival engagement and subsequent food choices. Tourism Management 48, pp.84-99. (10.1016/j.tourman.2014.10.021)
- Collins, A. J. 2014. The pursuit of a sustainable rural event: a case study of the Hay Literary Festival (UK). Yn: Dashper, K. gol. Rural Tourism: An International Perspective. Cambridge Scholars Publishing., t.151-170.
- Jamison-Powell, S., Bennett, L., Mahoney, J. a Lawson, S. 2014. Understanding in-situ social media use at music festivals. Trafodion Cyhoeddiad Cydymaith 17eg Cynhadledd ACM ar Waith Cydweithredol a Chyfrifiadura Cymdeithasol â Chefnogaeth Cyfrifiaduron. Efrog Newydd, NY: ACM t. 177-180.
- Hill, S. 2012. Mapio Canu Pop Cymraeg / Mapping Welsh Pop. Cyflwynwyd yn: 11eg Gynhadledd Canolfan Astudiaethau Cerddoriaeth Gymreig Uwch Aberystwyth, y DU Chwefror 2012.
- Hill, S. 2007. 'Blerwytirhwng?' the place of Welsh pop music. Cyfres Cerddoriaeth Boblogaidd a Gwerin Ashgate Aldershot: Ashgate.
- Hill, S. 2006. When deep soul met the love crowd: Otis Redding at the Monterey pop festival, June 16-18, 1967. Yn: Performance and Popular Music History, Place and Time. Ashgate, t.28 – 40
Prosiectau
Prosiectau a Digwyddiadau Diweddar a drefnwyd gan aelodau FRG
Arolwg Shutdown 2020: Gwyliau'n darparu Profiadau Emosiynol, Synhwyraidd a Chymunedol
Gyda chanslo gwyliau’r haf diwethaf, roeddem am wybod beth fyddai pobl yn ei golli am wyliau cerddorol. Gwnaethom gynnal arolwg, gyda dros 800 o unigolion yn ymateb. Roedd ein data’n cydnabod bod pobl yn mynychu digwyddiadau am amryw resymau, o ymdeimladau o gymuned i brofiad synhwyraidd cerddoriaeth, celf, bwyd a diwylliant, ond hefyd i deimlo emosiynau - yn y bôn mae gwyliau'n gwneud i ni deimlo'n dda. Gwnaethom ddadansoddi'r data ac rydym wedi crynhoi ein canfyddiadau yn y ddelwedd hon. Fe wnaethom grwpio ymatebion yn dri sector, ymatebion emosiynol, ysgogiad synhwyraidd a communitas (teimladau dwys o gyd-berthnasedd cymdeithasol a pherthyn) a darganfod bod yr elfennau hyn yn cydbwyso ac yr un mor bwysig fel y crynhoir yn y ddelwedd isod:
Gŵyl Gyflymder Goodway 2019
Yn y prosiect hwn, gweithiodd FRG mewn partneriaeth â Siemens (Partner Technoleg 2019) a rhoi sylw i effaith amgylcheddol gwyliau yn y DU. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y datblygiadau arloesol a'r mentrau sydd eu hangen i sicrhau gwyliau gwyrddach a glanach yn y dyfodol.
Eisteddfod Genedlaethol 2017 a 2018
Yn y prosiect hwn gwnaethom archwilio ymgysylltiad mynychwyr yr ŵyl â gweithgareddau a digwyddiadau yn ystod Eisteddfodau Cenedlaethol 2017 a 2018, eu profiad, ac effaith ehangach yr ŵyl gan gynnwys teithiau ymwelwyr. Yn 2018 cawsom gyllid gan CUROP (Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd) o dan y prosiect: “Dylanwadu ar Effeithiau a Gwaddol Gwyliau yng Nghymru: Sylw ar Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 ”, Prifysgol Caerdydd (Canolfan Addysg ac Arloesi).
Adroddiadau:
- Koenig-Lewis, N., Collins, A., Rosier, E. (2017). Eisteddfod Genedlaethol 2017 - Canfyddiadau Ymchwil, Prifysgol Caerdydd, Hydref 2017 (Adroddiad a gyflwynwyd i’r Eisteddfod Genedlaethol, 4 Hydref 2017)
- Koenig-Lewis, N., Collins, A., Rosier, E., Emyr, M., Murphy, S. (2018). Eisteddfod Genedlaethol 2018 - Canfyddiadau Ymchwil, Prifysgol Caerdydd, Hydref 2018 (Adroddiad a gyflwynwyd i’r Eisteddfod Genedlaethol, 17 Hydref 2018)
Blogiau/Newyddion:
- Ysgol Busnes Caerdydd, Hyfryd ac unigryw: Profiad CUROP yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, http://blogs.cardiff.ac.uk/business-school/2019/04/25/wonderful-and-unique-our-curop-experience-at-the-national-eisteddfod-of-wales/
- Prifysgol Caerdydd, Canlyniadau'r astudiaeth Eisteddfod i'w datgelu, https://www.cardiff.ac.uk/news/view/1242210-results-of-eisteddfod-study-to-be-revealed
Gŵyl Sŵn 2016
Mae ein hadroddiad o 2017 yn seiliedig ar y prosiect peilot gyda Sŵn bellach ar gael i'w lawrlwytho.
Yn ystod y prosiect peilot hwn, buom hefyd yn gweithio gyda StoryworksUK i recordio cyfweliadau â rhai o'r bobl sy'n ymweld ag Amgueddfa Gerdd Sŵn.
Mae detholiad o'r cyfweliadau hyn ar gael ar wefan Storyworks UK.
Gŵyl Lenyddiaeth y Gelli
Mae FRG wedi cynnal ymchwil i'r dulliau y mae ymwelwyr yn teithio i Ŵyl y Gelli. Ystyriodd y prosiect hwn hefyd pa fathau o strategaethau sydd eu hangen i leihau ôl troed teithio ymwelwyr a beth yw'r heriau allweddol o ran dylanwadu ar ymddygiad teithio ymwelwyr, a darparu digwyddiadau mwy cynaliadwy yng Nghymru?
https://theconversation.com/save-the-planet-one-festival-at-a-time-60802
Cwrdd â'r tîm
Research group leader
Staff academaidd
Staff cysylltiol
Related Groups
Caerdydd Creadigol
Archwilio effaith cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gwyliau. Mae’r grŵp yn dod ag academyddion Prifysgol Caerdydd a rhanddeiliaid allweddol ynghyd i gynnal ymchwil gydweithredol ar y sîn wyliau, ac i ystyried cwestiynau pwysig ynglŷn â dyfodol gwyliau.
Yn 2020 bydd y grŵp yn canolbwyntio ar fapio gwyliau yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynaliadwyedd amgylcheddol.
Resources

Festivals Research Group Report (March 2017)
A Spotlight on Swn Music Festival 2016.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.