Ewch i’r prif gynnwys

Cyfle unigryw i gael golwg ar Wladfa Patagonia, o’r ddwy ochr i Fôr Iwerydd

22 Mehefin 2015

Eleni, mae'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn dathlu carreg filltir fawr, sef 150 mlynedd ers ei sefydlu yn 1865. I gofio'r digwyddiad arwyddocaol hwn, mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd ryngwladol ar hanes a sefyllfa gyfoes y Wladfa ddydd Llun a dydd Mawrth, 6–7 Gorffennaf 2015, yn Adeilad John Percival ar gampws y Brifysgol.

Mae'r digwyddiad yn cynnig deuddydd o bapurau a thrafodaethau ar amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â'r Cymry ym Mhatagonia, gan gynnwys agweddau ieithyddol, llenyddol, addysgol, daearyddol a chymdeithasol.

Un o'r pethau nodedig am y gynhadledd hon yw bod tua hanner y siaradwyr wedi eu geni a'u magu yn Ariannin. Dyma gyfle gwych felly i gael golwg ar y Wladfa, ddoe, heddiw ac yfory, trwy lygaid pobl o Gymru ac o Batagonia.

Canolfan Uwchefrydiau Cymry America (sydd yn rhan o Ysgol y Gymraeg) sydd wedi trefnu'r gynhadledd mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cymru-Ariannin, Adran Diwylliant y 18fed a'r 19eg Ganrif ac Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru, a chyda chymorth hael Prifysgolion Santander.

Dywed yr Athro E. Wyn James, o Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America: "Roedd sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn antur arwrol ac iddi arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ei hanes a'i datblygiad yn codi pob math o gwestiynau diddorol a pherthnasol ynghylch hunaniaeth ac ymfudo. Dyma'r tro cyntaf i gynifer o arbenigwyr o Gymru ac Ariannin ddod ynghyd i drafod y Wladfa. Mae pob argoel y bydd y gynhadledd hon yn garreg filltir o bwys yn hanes astudio'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia."

Mae'n briodol iawn mai Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd sydd yn trefnu'r gynhadledd bwysig hon, oherwydd y mae gan yr Ysgol gysylltiadau cryf â'r Wladfa ers blynyddoedd lawer. Cynigir modiwl ar 'Hunaniaeth a Diwylliant y Wladfa' i fyfyrwyr israddedig yr Ysgol ac mae ysgoloriaethau ar gael yn flynyddol i rai ohonynt fynd i'r Wladfa am gyfnod o brofiad gwaith. Mae aelodau o staff yr Ysgol yn darlithio ac yn cyhoeddi'n gyson ar wahanol agweddau ar iaith a diwylliant y Wladfa, ac mae ei Chanolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion yn bartner allweddol yng Nghynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.

Nid oes unrhyw dâl am fynychu'r gynhadledd, ond gofynnir i bawb gofrestru ymlaen llaw (defnyddiwch y ddogfen isod). Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Athro E. Wyn James, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Adeilad John Percival, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU ( JamesEW@caerdydd.ac.uk)

Rhannu’r stori hon