Ewch i’r prif gynnwys

Ailddehongli’r diaspora Cymreig ym Mhatagonia

17 Rhagfyr 2021

Yn ystod mis Medi, cynhaliwyd symposiwm tairieithog ‘Ailddehongli’r Wladfa Gymreig’ yn Ysgol y Gymraeg, o ganlyniad i gydweithio rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, Prifysgol Caerdydd ac Adran Ieithyddiaeth a Llenyddiaeth, Prifysgol Bremen, fel rhan o Gynghrair arbennig rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bremen.

Trefnwyd y digwyddiad gan Dr Iwan Wyn Rees, a oedd hefyd yn un o brif siaradwyr y digwyddiad. Croesawyd 16 academydd, o ddisgyblaethau gwahanol, at ei gilydd dros blatfformau digidol am dri diwrnod o gyflwyniadau a thrafodaethau.

Bu canmlwyddiant a hanner y Wladfa Gymreig yn 2015 yn achos dathlu mawr yn Nhalaith Chubut ac yng Nghymru, ond yn fwy diweddar, bu’r Wladfa ym Mhatagonia yn destun cryn ddadlau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ychydig o sylw a roddwyd er hynny i waith ymchwil diweddar nifer o academyddion (o Ewrop ac o Dde America) sy’n ailddehongli agweddau amrywiol ar y diaspora Cymreig ym Mhatagonia.

Ai ‘myth’ yw’r hanes am berthynas arbennig y Gwladfawyr Cymreig â phobloedd frodorol Patagonia? I ba raddau yr oedd Cymry Patagonia yn ymwrthod â Phrydeindod? Ai’r un Wladfa yw Patagonia’r Cymry a Thalaith Chubut yr Archentwyr? A pham fod tuedd i’r Chwith Gymreig heddiw anwybyddu gwreiddiau sosialaidd Y Wladfa? Dyna rai o’r cwestiynau a oedd dan sylw yn ystod y symposiwm.

Dywed Dr Rees: “Roedd y symposiwm yn gyfle gwych i greu rhwydwaith rhyngwladol o academyddion o ddisgyblaethau gwahanol, ac o wledydd gwahanol – ar ddwy ochr yr Iwerydd. Roedden ni i gyd yn rhannu diddordebau cyffredin yn Y Wladfa Gymreig, ond eto yn cynnig pob math o ddeongliadau gwahanol.

“Rwy’n gobeithio i’r digwyddiad fynd i’r afael â chymhlethdod Y Wladfa, nid yn unig fel un o ganlyniadau trefedigaethu yng Nghymru, heb anghofio chwaith am gyfnodau o ormes o du Llywodraeth yr Ariannin, ond hefyd fel enghraifft o fath gwahanol o wladychu sy’n rhan gwbl ganolog o hanes cenedlaetholdeb Cymreig a datblygiad gwladwriaeth yr Ariannin fel ei gilydd.

“Allaf i ddim ond gobeithio y gwelwn ni’r cwricwlwm newydd yn rhoi sylw haeddiannol i’r cymhlethdod hwnnw, fel rhan bwysig o hanes Cymru, ond hefyd yng nghyd-destun dadgoloneiddio’r cwricwlwm ac o safbwynt cyfraniad y diaspora Cymreig i Gymru a’r byd.”

Gallwch wylio detholiad o gyflwyniadau’r digwyddiad ar ein sianel YouTube.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.