Ewch i’r prif gynnwys

Mecanweithiau Bywyd

Mechanisms of Living Systems

Technolegau a dulliau gweithredu i ddatgelu ‘rheolau bywyd’ sy’n sail i’r holl systemau byw – o foleciwlau i ecosystemau.

Oherwydd bod datblygu dulliau gweithredu peirianyddol addysgiadol yn rhan annatod o’r thema hon, yn amlwg, ceir cysylltiadau cryf â chydweithwyr o Goleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. At hynny, mae ymgysylltu â chymdeithas yn hanfodol i wireddu effaith ein gwaith ymchwil – nod a ddatblygir yn sylweddol drwy gydweithio’n agos â phartneriaid yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Is-themâu

Mae’r thema’n canolbwyntio ar bedair is-thema rhyng-gysylltiedig.

Atebion amgylcheddol ar gyfer byd sy’n newid

Mae angen atebion rhyng-ddisgyblaethol ar heriau amgylcheddol byd-eang a lleol.

Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall mecanweithiau sylfaenol i ganiatáu i ni ddatblygu atebion cynaliadwy sy’n cydnabod y berthynas gymhleth rhwng organebau a’u hamgylchedd. Y nod yw sicrhau diogelwch bwyd a chadw bioamrywiaeth drwy hyrwyddo ecosystemau sy’n gallu gwrthsefyll y byd sy’n newid gan gynnal aer glân, priddoedd llawn maetholion wedi'u strwythuro'n dda a chyflenwad dŵr cynaliadwy.

Un Blaned – Un Iechyd

Mae Un Iechyd yn cydnabod y dibyniaethau rhyng-gysylltiedig rhwng bodau dynol, anifeiliaid, planhigion ac ecosystemau. Wrth ystyried adnoddau cyffredin, megis dŵr, sy’n cefnogi eic amgylchedd naturiol, amaethyddiaeth a phoblogaeth, neu wrth fynd i’r afael â’r problemau ofnadwy sy’n codi wrth ddatblygu lleoedd cynaliadwy neu ymdrin ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Heintiau (rhwydwaith CURE), bydd angen trin yr amgylchedd fel un sydd â chysylltiad agos ag iechyd pobl.

Systemau a Bioleg Ragfynegol

Gellir datblygu dulliau gweithredu systemau ym mhob agwedd ar ymchwil y gwyddorau bywyd megis modelu cyflyrau afiechydon, epidemioleg ac aflonyddiadau amgylcheddol. Er mwyn cysylltu'n briodol ar draws graddfeydd, o foleciwl i ecosystem, mae angen datblygu modelau mathemategol neu gyfrifiadurol sy'n caniatáu i ni ragfynegi ymddygiad systemau biolegol. Mae modelau o'r fath yn hanfodol i nodi perthnasoedd achosol a datrys mecanweithiau sylfaenol, gan gynnig fframweithiau i gynhyrchu a phrofi damcaniaethau cysyniadol, yn ogystal â dylunio a rhagfynegi ffyrdd o drin systemau cymhleth er mwyn cyflawni canlyniadau penodol.

Technolegau arloesol am oes

Er mwyn gyrru gwaith ymchwil biolegol yn ei flaen a chynnig atebion newydd i broblemau biofeddygol ac amgylcheddol, rydym yn datblygu technolegau trawsnewidiol meintiol newydd, gan gynnwys dulliau bioddelweddu newydd, dadansoddeg data mawr, gwybodeg, biosynhwyryddion a diagnosteg.

Arweinydd Thema

Yr Athro Peter Kille

Yr Athro Peter Kille

Cyfarwyddwr Mentrau Biolegol

Email
kille@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4507

Arweinwyr Cyswllt Thema

Yr Athro Stan Marée

Yr Athro Stan Marée

Professor

Email
marees@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4486