Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer ymgysylltu: gwerth pensaer wrth drosglwyddo asedau cymunedol

Practicing engagement: The value of the Architect in Community Asset Transfer

Mae’r gwaith ymchwil hwn yn ymchwilio i rôl addysg ac ymarfer pensaernïol wrth gefnogi datblygiad a arweinir gan y gymuned.

Cychwynnodd prosiect Pafiliwn Grange yn 2012, yn bartneriaeth rhwng trigolion Grangetown a Phrifysgol Caerdydd er mwyn ailddatblygu Pafiliwn a Lawnt Bowls gwag mewn parc cymdogaeth yn Grangetown, Caerdydd, trwy Drosglwyddo Ased Cymunedol.  Mae’r prosiect ymchwil hwn wedi cael ei wreiddio ym mhrosiect y Porth Cymunedol o’r cychwyn cyntaf, ac mae wedi mynd ar ôl cwestiynau a godwyd ar hyd y ffordd:

  • Beth mae ‘gofod i bawb’ yn ei olygu?
  • Sut mae uchelgeisiau o ran ansawdd yn tawelu ofnau ynghylch troi’r ardal yn un fwy cefnog?
  • Sut mae ‘gwerth’ yn cael ei ddiffinio?
  • Beth yw rôl y pensaer cyn y dylunio ac wedyn?
  • Sut mae modd adeiladu gofal?
  • Beth yw canlyniadau moesegol Trosglwyddiad Dinesig Cymunedol?
  • Sut gall adeilad bach mewn parc bychan weithredu fel catalydd ar gyfer gweithredu ymhlith rhwydweithiau hyblyg o drigolion a phartneriaid sector preifat, cyhoeddus a thrydydd sector?

Cynnydd

Defnyddiwyd ymchwil weithredol ac addysgu byw ym mhob cyfnod o ddatblygiad y prosiect i archwilio’r cwestiynau hyn ac i gofnodi’n fanwl y prosesau cymhleth a heriol sy’n gysylltiedig â Throsglwyddo Ased Cymunedol, gan gefnogi proses lansio, twf, codi arian, ac adeiladu’r prosiect, a chymuned a ddiffinnir gan ofod dinesig.

Wedi i Bafiliwn Grange ar ei newydd wedd gael ei lansio yn 2020, mae’r gwaith ymchwil cyfredol a’r addysgu byw yn symud ymlaen at ddadansoddiad ôl-feddiant i gefnogi gweithrediad llwyddiannus a dichonoldeb hirdymor y gofod dinesig hwn, ac i brofi ei rôl fel catalydd ar gyfer gweithredu pellach dan arweiniad y gymuned yn y gymdogaeth.

Cyhoeddiadau

  • Mhairi McVicar, ‘Gathering-In-Action: the Activation of a Civic Space’, Architecture and Culture, 8 (3+4), mis Hydref 2020.
  • Mhairi McVicar a Neil Turnbull, ‘The live project in the participatory design of a common ethos’ Charrette, Journal of the Association of Architectural Educators, 5 (2) Hydref 2018.
  • Mhairi McVicar, 'Engender the confidence to demand better? The value of architects in community asset transfers’, Architectural Design 90 (4) (2020) tt. 46-51.
Yr Athro Mhairi McVicar

Yr Athro Mhairi McVicar

Project Lead, Community Gateway

Email
mcvicarm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4634