Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu allbynnau gwell o offer efelychu thermol adeiladau i wella penderfyniadau wrth ddylunio adeiladau ynni isel (EPSRC)

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar y bwlch rhwng yr wybodaeth allbwn o offer efelychu perfformiad adeiladau (BPS) a'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar ddylunwyr adeiladau i wneud penderfyniadau dylunio gwybodus wrth ddylunio adeiladau carbon isel ynni-effeithlon.

Agwedd allweddol ar y prosiect oedd cydnabod bod dylunwyr adeiladau yn dehongli ac yn trin gwybodaeth ffiseg thermol adeiladau yn wahanol i arbenigwyr ffiseg adeiladau. Felly, roedd y gwaith yn canolbwyntio ar gynhyrchu gwybodaeth allbwn ffiseg thermol adeiladau sy'n cyd-fynd â'r ffordd mae dylunwyr yn meddwl.

Ystyriwyd mai dylunwyr adeiladau oedd prif ddefnyddwyr offer BPS a gofynnwyd iddynt gymryd rhan yn yr ymchwil drwy awgrymu pa allbynnau ffiseg adeiladau allai fod yn ddefnyddiol mewn penderfyniadau ynghylch dylunio adeiladau.

Defnyddiwyd cyfres o ddulliau rhyngddisgyblaethol, nad oedd neb wedi rhoi cynnig arnynt o'r blaen yn y maes, i gynhyrchu gwybodaeth allbwn BPS ystyrlon ar gyfer penderfyniadau dylunio: Dylunio Rhyngweithio a dulliau ymchwil Ansoddol o'r Gwyddorau Cymdeithasol (Dadansoddi Thematig a Theori Sylfaenol) ynghyd â theori Dylunio Adeiladau ac egwyddorion o fodelu thermol dynamig a Delweddu Gwybodaeth.

Prif ganfyddiadau

  1. Disgrifiad o broses a ddefnyddiwyd i ddatblygu fframwaith i gynhyrchu gwybodaeth ôl-brosesu efelychu thermol a systemau cynrychioli data sy'n ystyrlon ar gyfer penderfyniadau dylunio (Bleil de Souza a Tucker 2013). Yna diwygiwyd ac ehangwyd yr astudiaeth yn bapur cyfnodolyn, drwy gynnwys cyfweliadau gydag ymarferwyr a chanlyniadau arolwg ar-lein (Bleil de Souza a Tucker 2014)
  2. Disgrifiad embryo o strwythur, patrymau penderfynu, sy'n galluogi i ddatblygwyr meddalwedd efelychu a dylunwyr adeiladau gynhyrchu canlyniadau efelychu thermol sy’n ystyrlon ar gyfer penderfyniadau dylunio (Tucker a Bleil de Souza 2013). Hefyd diwygiwyd ac ehangwyd yr astudiaeth yn bapur cyfnodolyn, drwy gynnwys cyfweliadau gydag ymarferwyr (dan adolygiad ar hyn o bryd yn y Journal of Building Performance Simulation).
  3. Model data cysyniadol embryo yn cynnwys nifer o dablau penagored cydberthynol yn gysylltiedig â set briodol o godio i greu arddangosiadau i gynhyrchu, storio ac adalw gwybodaeth allbwn efelychu thermol deinamig ar gyfer penderfyniadau dylunio: Man cychwyn i strwythuro ystorfa o wybodaeth ar gyfer datblygwyr meddalwedd i wella rhyngwynebau allbwn BPS (dan adolygiad ar hyn o bryd yn y Journal of Building Performance Simulation).
  4. 'Maniffesto' o ddull sy'n blaenoriaethu’r defnyddiwr i'r gymuned BPS yn egluro pam y dylid ystyried mai dylunwyr adeiladau yw prif ddefnyddwyr offer BPS, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ymgynghorwyr, papur a gyflwynwyd i Fwrdd Cymdeithas Ryngwladol Efelychu Perfformiad Adeiladau (IBPSA) i fod yn rhan o bapur gwyn yr IBPSA.

Cyhoeddiadau

Mae'r cyhoeddiadau'n cynnwys:

Cysylltu

Yr Athro Clarice Bleil De Souza

Yr Athro Clarice Bleil De Souza

Lecturer

Email
bleildesouzac@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5969