Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewidiol: Tröedigion ym Mywyd Mwslimaidd Prydain

Rydym ni'n cynnal astudiaeth newydd o brofiadau tröedigion Mwslimaidd ym Mhrydain. Nod y prosiect tair blynedd yw archwilio os, a sut, mae tröedigion yn chwarae rôl yn llunio, neu drawsnewid, cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain drwy ymarfer arweinyddiaeth mewn bywyd cyhoeddus a chrefyddol.

Gan gydweithio â'r Convert Muslim Foundation, byddwn yn edrych ar sut mae tröedigion yn dangos arweinyddiaeth mewn tri maes penodol: y byd academaidd, arweinyddiaeth grefyddol, a'r sectorau diwylliannol a chreadigol.

Rydym ni am ddarganfod ymhle, a sut, mae tröedigion yn cyfrannu at ddatblygu bywyd mewn cymunedau Mwslimaidd cyfoes ym Mhrydain, neu'n eu harwain.

Logos

Tystiolaeth

Mae diddordeb academaidd mewn pobl Brydeinig sy'n cael tröedigaeth at Islam wedi bod yn nodwedd o Astudiaethau Mwslimaidd dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Mae’r ymchwil wedi canolbwyntio'n bennaf ar hanesion am dröedigaeth, neu 'naratifau tröedigaeth' (Bryce 2010, Roald 2012, Awan 2011).

Bu ffocws academaidd eithaf statig hefyd ar brofiadau o ymyleiddio ymhlith tröedigion yng nghymdeithas Prydain a chymunedau Mwslimaidd Prydain (Moosavi 2015, Amer a Howarth 2017). Yn gyffredinol, mae ymchwil wedi tueddu i ganolbwyntio ar brosesau a phrofiadau o dröedigaeth ac ar y gwendidau a'r anfanteision a wynebir gan y rheini sy'n cael tröedigaeth.

Ceir corff llai o ymchwil gysylltiedig sy'n edrych ar fywydau tröedigion beth amser ar ôl y dröedigaeth ac nad yw'n portreadu tröedigion yn nhermau'r anfanteision y gallent eu hwynebu yn unig. Mae rhai ymchwilwyr wedi awgrymu y gall tröedigion gynorthwyo gydag integreiddio cymunedau Mwslimaidd mewn cyd-destunau lleiafrifol (Jawad 2012, Sealy 2017).

O'r safbwynt hwn, mae gan dröedigion y potensial i weithredu fel 'adeiladwyr pontydd' rhwng Mwslimiaid a chymdeithas yn ehangach drwy dynnu ar eu hadnoddau cymdeithasol a diwylliannol penodol (Sealy 2017).

Ein nod yn yr astudiaeth hon yw cyfrannu at y maes ymchwil o amgylch tröedigion Mwslimaidd mewn cyd-destunau Gorllewinol sy'n canolbwyntio ar eu bywydau ar ôl eu tröedigaeth. Rydym ni'n ceisio archwilio'n fanwl y ffyrdd y mae tröedigion wedi setlo a symud ymlaen yn eu hunaniaethau cymhleth a chroestoriadol.

Byddwn yn ystyried os, a sut, mae tröedigion Mwslimaidd mewn swyddi arweiniol, o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol ac ethnig, yn trawsnewid arferion a normau crefyddol yng nghymunedau Mwslimaidd Prydain, a chanfyddiadau o'r cymunedau hynny yng nghymdeithas Prydain yn ehangach.

Nodau'r ymchwil

Nodau'r ymchwil yw:

Archwilio pa adnoddau (cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a chrefyddol) mae tröedigion Mwslimaidd yn eu defnyddio i gyrraedd safle arweiniol yn eu rolau proffesiynol a/neu o fewn cymunedau Mwslimaidd.

Archwilio i ba raddau mae tröedigion Mwslimaidd sydd mewn swyddi arweiniol yn teimlo bod ganddynt safle unigryw fel 'adeiladwyr pontydd' rhwng cymunedau Mwslimaidd Prydain a chymdeithas yn ehangach, a goblygiadau hynny ar gyfer eu datblygiad personol a phroffesiynol.

Deall i ba raddau y mae 'potensial integreiddiol' tröedigion Mwslimaidd yn llywio eu datblygiad personol a phroffesiynol, a'r rolau y maent yn ymgymryd â nhw yn eu gwaith ac mewn cymunedau Mwslimaidd.

Rhannu profiadau tröedigion Mwslimaidd mewn swyddi arweiniol i lywio a gwella cydnabyddiaeth i'w cyfraniadau i Islam a Brydeiniwyd ymhlith tröedigion, cymunedau Mwslimaidd a chymdeithas Prydain yn ehangach.

Dulliau ymchwil

Byddwn ni'n defnyddio dulliau ymchwil ansoddol ac ethnograffig i ddeall sut mae tröedigion Mwslimaidd yn dangos arweinyddiaeth ac yn dal swyddi awdurdodol yn eu meysydd perthnasol ac mewn cymunedau Mwslimaidd.

Cynhelir deg ar hugain o gyfweliadau manwl gyda thröedigion Mwslimaidd, gyda deg yn cael eu cyfweld o bob un o'r meysydd canlynol: y byd academaidd, arweinyddiaeth grefyddol, a'r sectorau diwylliannol a chreadigol. Bydd y rhai a gaiff eu cyfweld yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig i adlewyrchu amrywiaeth cynyddol y boblogaeth o dröedigion Mwslimaidd ym Mhrydain.

Drwy gyfweliadau a rhywfaint o arsylwi bywydau proffesiynol a dydd i ddydd, ein gobaith yw datblygu dealltwriaeth gyfoethog a chynnil o brofiadau a chyflawniadau tröedigion Mwslimaidd mewn swyddi arweiniol.

Dull cydweithredol

O gynllunio'r ymchwil hyd at ddadansoddi'r canlyniadau a lledaenu canfyddiadau'r ymchwil, caiff y prosiect ei lywio drwyddi draw gan ein gwaith cydweithredol gyda'n partner ymchwil y Convert Muslim Foundation. Ffocws yr astudiaeth yw cynnal ymchwil gyda thröedigion Mwslimaidd.

Arweinir y prosiect gan grŵp llywio gydag aelodau sy'n Fwslimiaid a rhai nad ydynt yn Fwslimiaid sydd â gwybodaeth arbenigol am dröedigion Mwslimaidd, boed yn brofiad byw a/neu'n brofiad proffesiynol. Bydd y grŵp llywio'n cyfarfod yn flynyddol dros dair blynedd y prosiect er mwyn rhannu eu harbenigedd.

Byddwn ni'n datblygu rhwydwaith ehangach o sefydliadau a grwpiau sy'n cynrychioli ac yn cefnogi Mwslimiaid sy'n dröedigion. Bydd y rhwydwaith yn derbyn diweddariadau rheolaidd am y prosiect a bydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lledaenu. Byddwn ni'n archwilio ffyrdd y gellir cynnal y rhwydwaith y tu hwnt i oes yr astudiaeth er budd cymunedau tröedigion.

Pwy fydd ar eu helw?

Caiff canfyddiadau'r prosiect eu rhannu mewn nifer o ffyrdd, â'r nod o greu effeithiau cadarnhaol i gymunedau Mwslimaidd sy'n dröedigion a rhai nad ydynt wedi cael tröedigaeth, gan gynnwys:

  • cyfrannu at symud diddordeb academaidd mewn tröedigion Mwslimaidd drwy fynd y tu hwnt i naratifau tröedigaeth, at brofiadau unigolion a chymunedau o dröedigion hirsefydlog - cyflawnir hyn drwy erthyglau i gyfnodolion academaidd a chyflwyniadau mewn cynadleddau
  • symud naratifau cyhoeddus am dröedigion Mwslimaidd (fel y darlun a geir yn y cyfryngau) i ffwrdd o straeon negyddol, amheus, neu 'ryfedd' i ddealltwriaeth fwy cynnil a manwl o'u profiadau - cyflawnir hyn drwy ledaenu canfyddiadau mewn datganiadau i'r wasg a chynyrchiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
  • lledaenu difyr a rhyngweithiol drwy arddangosfeydd a gweithdai i gymunedau tröedigion Mwslimaidd Prydain, er mwyn cydnabod a dathlu cyflawniadau a chynnig modelau rôl ac astudiaethau achos cadarnhaol
  • lledaenu wyneb yn wyneb i gymunedau a sefydliadau Mwslimaidd Prydain er enghraifft mosgiau a sefydliadau cynrychioliadol eraill, er mwyn gwella dealltwriaeth o dröedigion Mwslimaidd a hyrwyddo gwell ymgysylltu, rhyngweithio a chefnogaeth iddynt
  • dylanwadu ar bolisi drwy gyflwyno canfyddiadau i adrannau'r llywodraeth i wella eu dealltwriaeth o unigolion a chymunedau o dröedigion Mwslimaidd, drwy sesiynau briffio polisi a/neu gyflwyno canfyddiadau ymchwil

Y tîm ymchwil

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â ni.

Cyfarwyddwr y Prosiect

Yr Athro Sophie Gilliat-Ray

Yr Athro Sophie Gilliat-Ray

Professor in Religious and Theological Studies, Head of Islam UK Centre

Email
gilliat-rays@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0121

Cydymaith Ymchwil

Dr Asma Khan

Dr Asma Khan

Research Fellow

Email
asmakhan@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5069

Convert Muslim Foundation

Aelod o'r Bwrdd Rheoli