Ewch i’r prif gynnwys

Gêm Gardiau Teuluoedd Cylchol

Bu’r prosiect yn archwilio gallu arferion chwareus i ymgysylltu â chymunedau trefol fel tai cymdeithasol, cefnogi darganfod cydweithredol a hyrwyddo gwybodaeth o’r gwaelod i fyny ar sut y gallant gyfrannu at economi gylchol.

Gan fod gemau’n gallu codi ymwybyddiaeth dinasyddion, cefnogi dysgu a hyrwyddo newid ymddygiadol, datblygwyd gêm o’r enw “Teuluoedd Cylchol” i gynnwys dinasyddion mewn arferion cynhyrchu a defnydd ar gyfer economi gylchol. Drwy chwarae gêm gardiau “Teuluoedd Cylchol” bydd chwaraewyr yn darganfod sut i fod yn rhan o bontio i economi gylchol drwy newidiadau mewn arferion cynhyrchu a defnydd dydd i ddydd. Drwy newid ymddygiad, gall dinasyddion chwarae rôl weithredol i leihau effaith ecolegol dinasoedd ar yr amgylchedd wrth hyrwyddo buddion i gymdeithas a’r economi.

Mae’r gêm yn cynnwys dec arbennig o 52 cerdyn wedi’u trefnu’n 13 teulu, dau gerdyn joker, 10 cerdyn llythyren, 7 cerdyn adnabod dinesydd a chardiau cyfarwyddiadau ar gyfer creu a chwarae’r gêm. Nod y gêm yw casglu 4 cerdyn aelod o’r un teulu i adeiladu teulu cylchol. Mae 13 o deuluoedd cylchol wedi’u rhannu’n bum sector trefol: adeiladu, cynnyrch, bwyd, seilwaith gwyrdd, a symudedd. Mae pob teulu’n cynnwys pedwar aelod, ac mae pob aelod yn defnyddio strategaeth arloesi cymdeithasol i weithredu un o’r camau cylchol “cymryd”, “gwneud”, “defnyddio”, ac “adfer” i greu dolen gylchol yn eu sector.

Mae pob cerdyn yn cynnwys enw’r teulu cylchol, yr aelod penodol o’r teulu wedi’i amlygu gyda’r strategaeth arloesi cymdeithasol a weithredir, y cam gweithredu a wneir gan yr aelod o’r teulu i greu dolen gylchol, aelodau eraill y teulu, y math o ddinesydd y mae’r aelod yn perthyn iddo a sector dinesig y gweithredu.

Mae llyfryn Circular Families DIY & Play ar gael am ddim ar y dudalen we hon ar gyfer gwneud a chwarae’r gêm (Ffig 4). Caiff chwaraewyr eu harwain i gynhyrchu’r gêm eu hunain drwy argraffu a thorri cardiau yn ogystal â chreu amlen origami ar gyfer dal y gêm gardiau ar ddiwedd y sesiynau chwarae. Yna, byddant yn cael cyfarwyddiadau ar gyfer chwarae’r gêm. Mae fideo a ddatblygwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd sydd wedi’i gyfieithu i’r holl ieithoedd Ewropeaidd yn egluro rheolau’r gêm ar gael ar y llwyfan Science is Wonderful!

Bydd y chwaraewyr yn eistedd mewn cylch. Gallan nhw chwarae dau fersiwn o’r gêm. Yn y fersiwn cyntaf, “Teuluoedd Hapus Cylchol”, mae’r chwaraewyr yn adeiladu teulu cylchol drwy ofyn i chwaraewyr eraill am aelod penodol mewn teulu penodol. Pwy bynnag sy’n casglu’r mwyaf o deuluoedd sy’n ennill. Yn yr ail fersiwn o’r enw “Teuluoedd Dolennog Cylchol” mae chwaraewyr yn adeiladu teulu cylchol drwy basio cardiau un ar y tro i’r chwith a derbyn cardiau un ar y tro o’r dde tan i rywun adeiladu teulu cylchol.

Ar ôl chwarae, gall y chwaraewyr ddewis eu hoff strategaeth ar y cardiau chwarae a nodi’r math o ddinesydd yr hoffen nhw fod. Mae 7 math o ddinesydd: Do-It-Together, Strategic, Sharing, Do-It-Yourself, Sensor, Zero-Waste, ac Utility-Oriented. Drwy’r daflen Citizen-ID DIY & Play sydd ar gael am ddim i’w lawrlwytho o’r dudalen gwe hon, bydd chwaraewyr yn darganfod nodweddion y math o ddinesydd a ddewiswyd ar y cerdyn adnabod perthnasol. Mae cyfieithiadau o’r daflen a ddatblygwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gael yn yr holl ieithoedd Ewropeaidd ar y llwyfan Science is Wonderful! Yn olaf, gall chwaraewyr roi cardiau yn yr amlen origami i gadw’r gêm gardiau ar gyfer sesiynau chwarae yn y dyfodol.

Lawrlwythwch y gêm Circular Families a'r daflen Adnabod Dinasyddion.

Mae'r daflen Adnabod Dinasyddion hefyd ar gael i'w lawrlwytho yn y 23 iaith wahanol a restrir isod: