Ewch i’r prif gynnwys

Cydlunio cynllun adfer yn sgîl COVID-19 sy'n addas i blant a phobl ifanc ar gyfer cymunedau wedi’u hymyleiddio yng Nghaerdydd

Manylion

Prosiect cenhadaeth ddinesig mewn cydweithrediad â Phorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange a Thîm Dinas Sy'n Dda i Blant Cyngor Caerdydd.

Gweithio gyda phlant a phobl ifanc o gymunedau yng Nghaerdydd i gydgynhyrchu cynllun adfer gwyrddach a thecach sy'n addas i blant ar gyfer Grangetown, drwy gyfres o weithdai a gweithgareddau ymgysylltu.

Mae'r ymatebion pandemig COVID-19, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, cau ysgolion a gwahardd gweithgareddau awyr agored, wedi dwysáu anghydraddoldebau cymdeithasol a gofodol, yn enwedig ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

Mae'n amlwg nad yw profiadau plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi gorlawn ac mewn fflatiau uchel, a'r rhai heb fynediad i erddi ac sydd â mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad i'r rhyngrwyd yr un fath â phlant mewn cartref llawn lle sydd â mynediad i TGCh, gardd breifat a pharc o ansawdd uchel.

Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd effeithiau niweidiol hirdymor y pandemig ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Cymunedau

Bydd angen cynllun adfer ar gymunedau ar gyfer dod at ei gilydd ac ar gyfer ailysgogi cymdeithasu awyr agored a rhoi mynediad i fannau gwyrdd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Gan adeiladu ar lwyddiant Prosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda chymuned Grangetown yng Nghaerdydd ac yn cynnig cyfres o weithgareddau cenhadaeth ddinesig gyda phlant (8-11 oed) a phobl ifanc (12-17 oed) ar gyfer cydlunio cynllun adfer sy'n addas i blant ac ieuenctid.

Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:

  1. cyd-asesu'r cymdogaethau â phlant a phobl ifanc, gyda'r nod o ddeall sut mae cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio ar brofiadau pob dydd plant
  2. cydlunio cynllun adfer
  3. cydadeiladu un elfen, wedi'i dylunio a'i dewis gan blant
  4. cydgynhyrchu pecyn cymorth.

Bydd y gweithgareddau'n cael eu cynnal trwy gyfres o weithdai gyda phlant a phobl ifanc a fydd yn defnyddio ystod o ddulliau creadigol megis teithiau cerdded lluniau dan arweiniad plant, a rhestr a gynorthwyir gan dechnoleg o'r gymdogaeth.

Nod ac amcanion

Nod y prosiect yw gwella lles plant a phobl ifanc a'u grymuso drwy gydlunio cynllun adfer ar gyfer eu cymunedau. Mae'r prosiect yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn a'r ieuenctid, gan fod eu lleisiau'n aml yn parhau i fod heb eu trafod yn y broses o ddylunio a chynllunio trefol.

Bydd y cynllun adfer ar gyfer Grangetown sy'n ystyriol o blant yn cynnwys argymhellion y gellir eu rhoi ar waith mewn cymunedau eraill yng Nghaerdydd, a ledled y DU.

Partneriaid y prosiect

Tîm Caerdydd sy'n Dda i Blant

  • Lee Patterson, Cydlynydd Rhaglen Dinas Sy'n Dda i Blant
  • Carey Davies, Rheolwr Cyfranogiad Strategol a Hyfforddiant Sy'n Dda i Blant

Cyllid

  • £7500 Arloesedd i Bawb - Prifysgol Caerdydd
  • £7000 Arian cyfatebol gan Gyngor Caerdydd

Tîm y prosiect

alt

Dr Matluba Khan

Lecturer in Urban Design

Tîm


Cefnogaeth

Roedd modd cynnal yr ymchwil hon oherwydd cefnogaeth y sefydliadau canlynol: