Takeda
![Takeda](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=873&ar=16:9&q=80&auto=format)
Mae Prifysgol Caerdydd wedi creu partneriaeth â Takeda Pharmaceutical Company Limited (Takeda) i gydweithio ym maes darganfod cyffuriau er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o leddfu sgitsoffrenia ac anhwylderau seiciatrig eraill.
Bydd y gwaith ar y cyd yn cyfuno data genomig ar raddfa fawr, yn ogystal ag arbenigedd arloesol y Brifysgol ym maes geneteg seiciatrig, genomeg a niwrowyddoniaeth glinigol a sylfaenol, â gallu helaeth Takeda ym maes darganfod cyffuriau a datblygu clinigol.
Yn sgil y cydweithio, caiff Takeda fanteisio ar yr ymchwil o safon fyd-eang ar seiciatreg fiolegol a’r seilwaith cysylltiedig ledled y Brifysgol, gan gynnwys:
Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth â Takeda, cysylltwch â:
![Yr Athro Lawrence Wilkinson](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/10869/lawrence-wilkinson.jpg?w=120&h=120&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Yr Athro Lawrence Wilkinson
Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl
- wilkinsonl@caerdydd.ac.uk
- +44(0) 29 2068 8461