Ewch i’r prif gynnwys

Cartref newydd sbon ar gyfer Dysgu Gydol Oes

15 Ebrill 2024

 50-51 Plas y Parc
50-51 Plas y Parc

Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno ein cyrsiau gwanwyn a fydd yn cael eu cynnal yn ein hadeilad newydd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi darparu cyrsiau rhan-amser i oedolion ers ei sefydlu ym 1883, ac erbyn hyn, rydym yn hynod falch o allu lansio ein hadeilad newydd a fydd yn ein galluogi i barhau â'n cenhadaeth o hyrwyddo addysg uwch er budd pawb.

Mae ein hadeilad newydd yn garbon isel, gyda phympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar. Bydd yn darparu cyfleusterau cyfforddus ar gyfer gweithio, astudio ac addysgu, a’r nod yw sefydlu’r amgylchedd perffaith i allu croesawu ac annog myfyrwyr sydd efallai wedi bod i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth ers talwm. Bydd y cyfleuster modern hwn yn ysbrydoli ac yn cefnogi ein myfyrwyr â’u haddysg ran-amser a'u llwybrau at astudio gradd.

Rydym hefyd wedi ail-godi hen enw a allai fod yn gyfarwydd i rai o'n myfyrwyr a’n cyd-weithwyr hirsefydlog. Mae Addysg Barhaus a Phroffesiynol bellach wedi dychwelyd i’r enw, Dysgu Gydol Oes. Er bod sawl newid wedi digwydd o ran ein hunaniaeth, mae Dysgu Gydol Oes bob amser wedi bod wrth galon bob peth a wnawn, ac rydym yn hynod falch o allu dychwelyd at ddefnyddio’r enw hwnnw unwaith eto.

Gall pob myfyriwr a staff Prifysgol Caerdydd ymrestru ar gwrs rhan-amser a thalu ffioedd rhatach.

Fe ddewch o hyd i ni yn 50-51 Plas y Parc Mae rhagor o fanylion am ein cyrsiau ar gael yma:

Rhannu’r stori hon