Cyfleusterau ac offer
Mae RemakerSpace yn gartref i'r offer argraffu 3D diwydiannol diweddaraf, ac mae'n cynnwys offer ailddefnyddio, ail-weithgynhyrchu ac atgyweirio amrywiol sy’n gweithio gyda deunyddiau ffabrig, metel, pren a phlastig.
Sianelu meddwl creadigol.
Ein hargraffwyr 3D
Nid ydym yn gwneud gwaith lle mae darpariaeth fasnachol bresennol ar gael. Rydym yn gyfleuster hyfforddi, addysgu ac ymgysylltu sy’n cynnwys amrywiaeth eang o beiriannau argraffu 3D diwydiannol.

HP Multi Jet Fusion 580 color
Brand: HP
Math: Chwistrellu Rhwymwyr/Cyfuno drwy Aml-chwistrell

HP Multi Jet Fusion 540
Brand: HP
Math: Chwistrellu Rhwymwyr/Cyfuno ag Aml-chwistrell





ProJet 3500 HDMax
Brand: Protocom3DP
Math: Chwistrellu Rhwymwyr/Argraffu ag Aml-chwistrell
Gweithfannau
Mae gwahanol weithfannau ar gael drwy gydol y cyfleuster i helpu i ddiwallu pob angen. Gall ymwelwyr gymryd rhan a dysgu rhagor drwy ddefnyddio’r gweithfannau canlynol:
- gweithfannau dylunio sydd â’r feddalwedd 3D (SOLIDWORKS) a’r sganwyr 3D gorau, o safon y diwydiant
- gweithfan ar gyfer ffabrig sydd â pheiriannau gwnïo a pheiriannau sy’n creu brethynnau gwrymiog
- gweithfan ar gyfer pren a dodrefn sydd ag amrywiaeth o offer pŵer a llaw i brosesu a gorffen pren
- gweithfan atgyweirio offer electronig bach sydd â phecyn profi ac atgyweirio
- gweithfan DIY i wneud gwaith atgyweirio cyffredinol
Cysylltu â ni
A oes gennych ddiddordeb yn ein galluoedd, gan gynnwys diddordeb mewn gweld sut y gallem helpu i integreiddio cysyniadau sy’n ymwneud â’r economi gylchol yn eich grwpiau cymunedol, eich ysgolion, eich prifysgolion a’ch busnesau?
Cysylltwch â RemakerSpace i gael rhagor o wybodaeth a dysgu sut y gallwn weithio gyda'n gilydd!