Ewch i’r prif gynnwys

Cyflymu

Mae Sefydliad PARC a RemakerSpace wedi ymrwymo i greu byd cynaliadwy trwy ddod o hyd i’r atebion cywir i heriau mawr cymdeithas, gan bontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer ym maes logisteg a rheoli gweithrediadau gweithgynhyrchu.

DSV yw un o'r prif enwau logisteg a thrafnidiaeth yn y farchnad fyd-eang. Mae datblygiad proffesiynol eu staff o'r pwys mwyaf.

Mae'r Rhaglen Cyflymu Atebion wedi'i chreu i addysgu arweinwyr Logisteg yfory. Trwy gymryd rhan yn y rhaglen hon, mae gweithwyr proffesiynol gyrfa gynnar DSV yn dysgu wrth weithio, ochr yn ochr â hyfforddiant, mentora a phrosiectau. Mae hyn i gyd yn cael ei gyflwyno mewn amgylchedd rhyngwladol. Fel rhan o'r rhaglen, bob blwyddyn mae'r gweithwyr proffesiynol ifanc yn ymweld â Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestrau PARC Ysgol Busnes Caerdydd lle cânt well syniad o sut mae Prifysgol Caerdydd a DSV yn gweithio gyda'i gilydd a lle cânt eu hyfforddi mewn dadansoddeg a gwyddoniaeth reoli.

Dosbarth 2023

Diwrnod Graddio

DSV graduates with their caps

Ddydd Gwener 26 Ionawr, bu’n rhaid i ni ffarwelio â Hyfforddeion Cyflymu 2023. Roedd eu graddio’n goron ar flwyddyn llawn hyfforddiant, prosiectau, aseiniadau a chyflwyniadau.

Treuliodd y graddedigion wythnos yn Venlo yn ymgymryd ag un cwrs hyfforddi terfynol ac yn paratoi ar gyfer eu cyflwyniadau prosiect rhithwir. Ar dridiau cyntaf yr Wythnos Raddio, dilynon nhw gwrs hyfforddi am gymhwyso offer gwelliant parhaus yn ymarferol, gan gynnwys Lean, Six Sigma. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys llawer o weithgareddau ymarferol a gafodd ymateb cadarnhaol.

Roedd diwrnod mwyaf cyffrous yr wythnos wedi cyrraedd. Yn yr ystafell gyfarfod lle cynhelir y cyflwyniadau, roedd Albert-Derk Bruin (Is-lywydd Gweithredol, Rhagoriaeth Strategaeth Busnes a Rheoli Newid), Brian Ejsing (Prif Swyddog Gweithredol, Is-adran Atebion), Rene Vullers (Cyfarwyddwr, Dylunio a Defnyddio Prosesau, Solutions Global), Tobias de Neef (Uwch Gyfarwyddwr, DSV Sigma, Rheoli Newid Busnes, Solutions Global) a'r Athro Aris Syntetos o Brifysgol Caerdydd (Athro Ymchwil Nodedig, Cadeirydd DSV) yn aros i'r cyflwyniadau ddechrau. Yn ystod y diwrnod hwnnw, cyflwynodd yr holl grwpiau ganlyniadau'r prosiect rhithwir y maent wedi bod yn gweithio arno dros y tri mis diwethaf.

Aeth y cyflwyniadau’n dda iawn, ac o’r diwedd fe ddaeth yr awr. Galwyd pob Gweithiwr Proffesiynol Ifanc ymlaen yn ei dro a rhoddodd Albert-Derk Bruin eu tystysgrif haeddiannol iddyn nhw. Ac wrth gwrs, ni fyddai'n seremoni raddio go iawn heb lun o'r Gweithwyr Proffesiynol Ifanc yn taflu eu hetiau graddio sgwâr (eu capiau academaidd) i'r awyr. Roedd hi'n wythnos wych!

"Gweithio gyda chydweithwyr o ddiwydiant a dylanwadu ar arferion byd go iawn yw raison d'être Sefydliad PARC, ac un o brif amcanion partneriaeth strategol Prifysgol Caerdydd â DSV. Roeddwn i wrth fy modd o gael mynd i’r digwyddiad graddio yn Venlo ac yn falch o weld grŵp arall o bobl ifanc anhygoel a thalentog o DSV yn dod yn rhan o ‘deulu’ Ysgol Busnes Caerdydd. Ar ran Prifysgol Caerdydd: llongyfarchiadau i bawb. Da iawn!”

Yr Athro Aris Syntetos, Athro Ymchwil Nodedig, Cadeirydd DSV

“Roedd ein hyfforddiant ym Mhrifysgol Caerdydd yn anhygoel. Roedd yn wythnos llawn gwybodaeth, yn dysgu am yr economi gylchol, darogan, a chludiant ymhlith pynciau eraill. Ac roedd deall sut y gall yr academi a busnesau ddod at ei gilydd i gydweithio i nodi cyfleoedd a gwelliannau yn ddiddorol iawn i mi.” Juliana Garcia, cyfranogwr DSV.

Llongyfarchiadau i bob un ohonoch chi am eich ymdrechion a'ch gwaith caled, gam dîm PARC. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i chi i’r dyfodol a chofiwch gadw mewn cysylltiad!

Lecture attendees.
DSV 2023 cohoort

Wythnos Caerdydd

Arweinwyr y dyfodol DSV 2023 yn mireinio eu sgiliau gydag arbenigwyr yr Ysgol Busnes.

Cynhaliodd Sefydliad PARC Prifysgol Caerdydd y Rhaglen Cyflymu rhwng 5 a 9 Mehefin 2023. Cafodd aelodau'r garfan hyfforddiant ac aethon nhw i weithdai ar y canlynol:

  • darogan ar gyfer yr economi gylchol
  • rheoli gweithrediadau
  • cynllunio stocrestrau
  • cynllunio trafnidiaeth
  • rheoli gweithgynhyrchu

Dywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth yr Ysgol: "Roedd Ysgol Busnes Caerdydd yn falch iawn o groesawu’r garfan  Cyflymu DSV wych i Brifysgol Caerdydd unwaith eto. Mae'r rhaglen yn enghraifft hirsefydlog o'n partneriaeth ffrwythlon â DSV ac mae'n arddangos y canlyniadau rhagorol y gallwn eu cyflawni gyda'n gilydd.

Arweiniwyd yr hyfforddiant gan yr Athro Aris Syntetos, Dr Daniel Eyers, Dr Thanos Goltos, Dr Qinyun Li, a'r Athro Emrah Demir.

Fel rhan o'r rhaglen, ymwelodd y garfan â RemakerSpace a Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestrau Sefydliad PARC Ysgol Busnes Caerdydd.

Daeth y 5 diwrnod o hyfforddiant i ben gyda chyflwyniadau gan y myfyrwyr. Cynhaliodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd, y seremoni gloi, gyda thystysgrifau yn cael eu rhoi allan gan aelod o fwrdd y Rhaglen Gyflymu, Ralph Schouren.

Dywedodd Alejandra Aguilar, Arbenigwr Prosiect DSV:

"Roedd y darlithoedd yn ddiddorol iawn. Dysgon ni am brognosteg, yr economi gylchol, gweithgynhyrchu, argraffu 3D, a chludiant. Mae'r ymchwil a wneir yn y brifysgol yn chwarae rhan fawr mewn diwydiant, ac i’r myfyrwyr hefyd gan eu bod yn paratoi ar gyfer bod yn arweinwyr yn y dyfodol.”

Mae Sefydliad PARC a RemakerSpace wedi ymrwymo i greu byd cynaliadwy trwy ddod o hyd i atebion economaidd cylchol i heriau mawr cymdeithas, gan bontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer ym maes logisteg a rheoli gweithrediadau gweithgynhyrchu.

DSV 2023

Dosbarth 2022

Sefydliad PARC yn cynnal Cyflymu, rhaglen hyfforddi graddedigion ryngwladol DSV.

Rhwng 23 a 27 Ionawr, cynhaliodd Sefydliad PARC yr wythnos derfynol o hyfforddiant ynghyd â’r seremoni raddio ar gyfer blwyddyn gyntaf Rhaglen Cyflymu DSV.

Mae'r Rhaglen Cyflymu wedi'i datblygu i nodi a meithrin talent newydd yn DSV. Mae'n rhaglen blwyddyn o hyd sy'n canolbwyntio ar rwydweithio, hyfforddiant, a phrosiectau mewn lleoliadau rhyngwladol. Yn y flwyddyn gyntaf hon, roedd gan DSV grŵp o wyth o Weithwyr Proffesiynol Ifanc o bob cwr o'r byd.

Dechreuodd yr wythnos gyda chroeso cynnes yn SBARC lle cafodd y bobl ifanc well syniad o sut mae Prifysgol Caerdydd a DSV yn cydweithio. Yn ddiweddarach, ymwelon nhw â RemakerSpace lle cawsant gyfle i weld ein hargraffwyr 3D yn gweithio a chael blas go iawn o ailweithgynhyrchu a gwaith yn yr economi gylchol. Ar ôl y diwrnod rhagarweiniol, aeth y bobl ifanc i amrywiol ddarlithoedd yn ymwneud â meysydd arbenigedd PARC: Optimeiddio a rheoli trafnidiaeth, Darogan, Stocrestrau, Gweithgynhyrchu ac Ailweithgynhyrchu. Y thema sylfaenol oedd yr Economi Gylchol, a Chynaliadwyedd Amgylcheddol.

Cynlluniwyd a chyflwynwyd y seminarau gan yr Athro Aris Syntetos, ac Emrah Demir, a Dr Dan Eyers, Thanos Goltsos, Qinyun Li, a chydlynydd DSV, Antonis Siakallis, sy’n gweithio’n barhaol yn Sefydliad PARC yn Aberconwy.

Ar ddiwedd yr wythnos gwnaeth Deon Ysgol Busnes Caerdydd, yr Athro Rachel Ashworth, gyflwyno’r tystysgrifau ac, ochr yn ochr â Rheolwr Bwrdd Rhaglen Cyflymu DSV, Ralph Schouren, ddod â’r seremoni raddio i ben. Ynghyd â'u tystysgrif, derbyniodd pob person ifanc logo Prifysgol Caerdydd wedi'i argraffu gyda’n hargraffwyr 3D RemakerSpace ein hunain.

Llongyfarchiadau i bob un ohonoch chi gan dîm PARC. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i chi i’r dyfodol a chofiwch gadw mewn cysylltiad!

Rydym nawr yn edrych ymlaen at gwrdd â’r garfan nesaf o dîm Cyflymu DSV!

Sefydliad PARC

Accelerate people in from of Business Building
Accelerate people outside building
Accelerate people outside