Ewch i’r prif gynnwys

OPT063 - Prosiect Ymchwil

Mae'r modiwl hwn yn rhan orfodol o'r MSc mewn Optometreg Glinigol, lle byddwch yn cwblhau prosiect drwy astudiaeth uwch neu ymchwil.

Ar gyfer y modiwl hwn, mae rhaid i chi gwblhau prosiect ymchwil neu adolygiad llenyddiaeth systematig yn llwyddiannus  mewn maes sy'n berthnasol i optometreg, ac ysgrifennu adroddiad (hyd at 20,000 o eiriau).

Gall myfyrwyr gynnig prosiectau ymchwil MSc neu gellir eu dewis o restr a ddarperir gan y staff. Cytunir ar y pwnc ar gyfer ymchwil rhwng arweinydd y modiwl, y goruchwyliwr(wyr) arfaethedig a'r myfyriwr.

Dyddiad dechrauMedi a Mawrth
Credydau60 credyd - pwyntiau CET ar gael
Tiwtoriaid y modiwlJustyn Regini (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£4020 - Myfyrwyr cartref
£7500 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT063

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • chwilio am wybodaeth briodol tra'n cynnal ymagwedd feirniadol at y llenyddiaeth sydd ar gael
  • dangos arbenigedd yn eich maes pwnc dewisol
  • dangos dealltwriaeth o fethodoleg ymchwil a dylunio astudiaethau
  • dangos dealltwriaeth ddofn o'r technegau a'r rhesymeg a ddefnyddir yn eich ymchwil
  • deall dadansoddi data arbrofol
  • dangos ymwybyddiaeth o ddulliau ystadegol eraill o ddadansoddi data
  • dangos dealltwriaeth o ganlyniadau a chasgliadau'r gwaith, a'i gyfyngiadau (fel y bo'n briodol)
  • cysylltu’r canfyddiadau â rhai ymchwilwyr eraill ac arferion optometrig cyfredol

Dull cyflwyno’r modiwl

Mae astudio annibynnol yn hanfodol ar gyfer y modiwl hwn a chaiff ei gefnogi'n llawn gan y goruchwylwyr a thîm y cwrs.

Byddwch yn mynd i seminar ragarweiniol, gydag arweinydd y modiwl a'r darpar oruchwylwyr (goruchwylwyr) i esbonio'r modiwl a disgwyliadau'r goruchwyliwr/goruchwylwyr. Bydd amlder cyfathrebu a/neu’r cyfarfodydd rhyngoch chi a'r goruchwyliwr/goruchwylwyr yn cael ei bennu ar sail unigol - cyfathrebu rheolaidd gyda'ch goruchwyliwr/goruchwylwyr yw'r allwedd i lwyddiant.

Byddwch yn cael eich cyfeirio at adnoddau priodol a thestunau generig i gefnogi eich pwnc dewisol a'ch datblygiad sgiliau ymchwil. O'r dysgu cychwynnol hwn, bydd y cwestiwn ymchwil/adolygiad yn cael ei fireinio ymhellach, ac yna caiff y prosiect ymchwil ei ddatblygu.

Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Dull asesu’r modiwl

Cynhelir asesu ffurfiannol anffurfiol yn rheolaidd drwy gydol y prosiect, drwy gyfathrebu gyda goruchwyliwr/wyr a fydd yn cynnig adborth ar eich cynnydd. 

Cynhelir yr asesiad (100%) ar ddiwedd y modiwl pan gyflwynir adroddiad prosiect ysgrifenedig o fewn yr amserlen a gytunir. Bydd y goruchwyliwr yn arholi hwn a chaiff ei farcio hefyd gan aelod arall o staff yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg. Bydd y Bwrdd Arholiadau Ôl-raddedig a Addysgir yn cymeradwyo'r dyfarniad terfynol (mewn ymgynghoriad a'r Arholwyr Allanol).

Y safon a ddisgwylir mewn prosiectau ymchwil yw'r un sy'n dangos bod y myfyriwr yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymhwyster ar lefel 7, fel y nodir gan feincnodau'r QAA.