Ewch i’r prif gynnwys

OPT040 - Lensys Cyffwrdd 1

Nod y modiwl hwn yw gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau fel y gallwch ddarparu safon uwch o ofal lensys cyffwrdd.

Mae'r modiwl hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â phrofiad cyfyngedig o lensys cyffwrdd, neu sy'n awyddus i adnewyddu eu sgiliau neu wella eu hyder mewn gwahanol feysydd o ymarfer lensys cyffwrdd .

Dyddiad dechrau Medi
Credydau 10 credyd
Rhagofynion Dim
Tiwtoriaid y modiwlJenni Turner (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwl OPT040

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Bod â gwybodaeth fanwl am ddylunio a gweithgynhyrchu lensys ar gyfer lensys hydrogel a RGP a gwybod sut i ffitio ac asesu ystod o ddyluniadau lensys
  • Gwybod sut i ffitio ystod o lensys cyffwrdd i gywiro astigmatedd rheolaidd ac afreolaidd (fel ceratoconws cynnar neu ôl-impiad)
  • Gwybod sut i ffitio ystod o lensys cyffwrdd i gywiro presbyopia
  • Deall sut y gellir defnyddio lensys cyffwrdd i reoli myopia
  • Nodi, asesu a rheoli effaith cymhlethdodau lensys cyffwrdd ar flaen y llygad
  • Gallu rheoli'r llygad sych mewn ymarfer lensys cyffwrdd

Dull cyflwyno’r modiwl

Dysgir y modiwl hwn trwy diwtorialau a darlithoedd Xerte (Pwerbwynt â sain) a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gan ddarparu adnoddau a chyfeirnodau ategol. Mae gweminar ragarweiniol, a thair sesiwn weminar arall o ddysgu ar-lein dan arweiniad.

Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn.

Sgiliau a gaiff eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Cynnwys y maes llafur

  • Dylunio a gweithgynhyrchu lensys RGP a hydrogel:
  • Ffitio RGP:
  • Astigmatedd rheolaidd ac afreolaidd
  • Lensys cyffwrdd ar gyfer presbyopia
  • Lensys cyffwrdd ar gyfer astigmatedd
  • Lensys cyffwrdd ar gyfer rheoli myopia ac orthoceratoleg
  • Cymhlethdodau lensys cyffwrdd ar flaen y llygad, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu, i’r canlynol:
  • Llygaid sych a lensys cyffwrdd

Dull asesu’r modiwl

Asesiad ffurfiannol

Byddwch yn gallu asesu eich cynnydd eich hun drwy gydol y cwrs gyda set o senarios nodweddion allweddol ac un set o senarios achosion rheoli. Nid yw'r marc ar gyfer y rhain yn cyfrif tuag at y radd derfynol.

Asesiad crynodol

Arholiad Ar-lein 100%: Mae hyn yn cynnwys cyfres o gydnabyddiaethau nodweddion allweddol ac asesiadau senario achos rheoli, a bydd yn asesu dealltwriaeth a chymhwysiad y wybodaeth rheoli clinigol a gafwyd drwy gydol y cwrs.