Ewch i’r prif gynnwys

OPT039 - Therapiwteg Ocwlar ar gyfer mân gyflyrau llygaid

Nod y modiwl hwn yw darparu diweddariad i chi ar y cyffuriau y gall optometryddion cofrestredig yn y DU eu cyflenwi neu eu gwerthu fel rhan o’u hymarfer proffesiynol ar gyfer trin mân gyflyrau llygaid sy’n effeithio ar flaen y llygad a’r rhithbilennau.

Mae'r diweddariad hwn yn ymwneud ag optometryddion y DU heb gymwysterau cyflenwi na rhagnodi annibynnol ychwanegol, ac mae'n cynnwys yr holl gynhyrchion meddyginiaethol ar GSL a phob meddyginiaeth P, yn ogystal â POMs y gellir eu gwerthu neu eu cyflenwi mewn argyfwng.

Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn. Nid oes unrhyw elfen ymarferol i'r modiwl hwn. Mae'r modiwl hwn yn cael ei astudio dros un semester.

Dyddiad dechrauMawrth
Credydau10 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlBarbara Ryan (Arweinydd)
Kevin Wallace (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT039

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • gwneud penderfyniadau rheoli ar y strategaethau rheoli priodol ar gyfer mân gyflyrau’r llygaid sy'n effeithio ar flaen y llygad
  • dangos gwybodaeth fanwl am gyffuriau therapiwtig ocwlar sy'n gynhyrchion meddyginiaethol GSL, meddyginiaethau P a POMs y gellir eu gwerthu neu eu cyflenwi mewn argyfwng
  • dangos dealltwriaeth o sut i fonitro'r ymateb i driniaeth, adolygu'r gwaith a'r diagnosis gwahaniaethol, ac addasu triniaeth neu gyfeirio / ymgynghori / ceisio arweiniad fel y bo'n briodol
  • llunio, argymell a chyfiawnhau (drwy ddarparu tystiolaeth o arfarnu'r llenyddiaeth) gynllun rheoli priodol

Dull cyflwyno’r modiwl

Bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno drwy gyflwyniadau a darlithoedd Xerte ar-lein a gyflwynir trwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gydag adnoddau a chyfeiriadau ategol yn cael eu darparu. Mae trafodaethau achos rhyngweithiol ac addysgu arall mewn gweminarau, a chynigir aseiniadau ffurfiannol i arwain a gwella dysgu.

Bydd byrddau trafod y gellir eu cyrchu trwy Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i chi drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'ch cyd-fyfyrwyr.

Sgiliau a gaiff eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Dull asesu’r modiwl

Byddwch yn cael eich argymell i gyflwyno ateb byr ffurfiannol i gael adborth cyn y gwaith cwrs crynodol.

  • Gwaith cwrs ysgrifenedig (100%): Rhoddir senarios ichi sy'n cynrychioli ymgyflwyniadau arferol cleifion wrth ymarfer yn y DU. Bydd gofyn i chi ymchwilio i'r rhain a chyflwyno cynllun rheoli priodol ar ffurf ateb byr, ei argymell a’i gyfiawnhau.