Ewch i’r prif gynnwys

OPT034: Therapiwteg Ocwlar

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r wybodaeth a’r sgiliau i chi ddarparu therapiwteg ocwlar o ansawdd uchel.

Ynghyd ag OPT035 ac OPT036, mae'r modiwl hwn wedi'i achredu gan y Cyngor Optegol Cyffredinol ar gyfer y Cymhwyster Rhagnodi Annibynnol.

Dim ond yn rhan o'r Dystysgrif Ôl-raddedig 60 credyd llawn mewn Rhagnodi Therapiwtig y mae modd astudio'r modiwl hwn, ond efallai y bydd yn bosibl cymhwyso credydau o'r dyfarniad hwn i'r diploma MSc neu ôl-raddedig mewn Optometreg Glinigol.

Dyddiad dechrauMis Medi
Credydau20 credyd - Pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y ModiwlSophie Harper (Arweinydd)
Deacon Harle (Arweinydd)
Ffioedd Dysgu (2024/25)£1340 - Myfyrwyr cartref
£2500 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT034

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Arddangos gwybodaeth fanwl am anatomi a ffisioleg blaen y llygad a’r rhithbilennau
  • Arddangos gwybodaeth fanwl am gyffuriau therapiwtig ocwlar
  • Gwerthuso'r prif arwyddion a symptomau sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â mathau cyffredin a llai cyffredin o glefyd blaen y llygaid a chynnal ymchwiliadau offthalmig priodol
  • Cymhwyso gwybodaeth am y theori a'r arfer sy'n ymwneud â'r epidemioleg, y patholeg a’r driniaeth (drwy ymyrraeth â chyffuriau neu drwy lawfeddygaeth) fel sy'n berthnasol i gyflyrau ocwlar annormal
  • Arddangos gwybodaeth fanwl am bathoffisioleg, nodweddion clinigol a chwrs naturiol y cyflyrau sy'n cael eu trin
  • Asesu arwyddion a symptomau clefyd blaen y llygaid i wneud diagnosis gwahaniaethol ac i raddio opsiynau
  • Llunio, argymell a chyfiawnhau drwy ddarparu tystiolaeth o arfarnu'r llenyddiaeth a chynllun rheoli priodol
  • Gwerthuso ymateb clefyd blaen y llygaid i driniaeth, adolygu'r gwaith a'r diagnosis gwahaniaethol, a dewis diwygio'r cynllun diagnosis a rheoli ai peidio, gan gyfiawnhau ac esbonio'r dewis(iadau) a wneir
  • Gwerthuso ymateb clefyd blaen y llygaid i driniaeth, a dewis adolygu'r diagnosis gwahaniaethol, a dewis diwygio'r cynllun diagnosis a rheoli ai peidio, gan gyfiawnhau ac esbonio'r dewis(iadau) a wneir

Dull cyflwyno’r modiwl

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys diwrnod addysgu cyswllt wyneb yn wyneb tuag at ddechrau'r modiwl (yn ddibynnol ar gyfyngiadau COVID-19) sy'n cynnwys sesiwn ryngweithiol sy'n seiliedig ar achosion. Mae astudiaethau'n parhau gyda chyfres o erthyglau a darlithoedd dysgu o bell a gyflwynir ar Dysgu Canolog. Mae trafodaethau achos rhyngweithiol ac addysgu eraill yn rhan o weminarau.

Mae dau sesiwn gyswllt i gyd sy'n cynnwys y diwrnod addysgu cyswllt tuag at ddechrau'r modiwl, ac arholiad ar-lein a gynhelir o bell ar ddiwedd y modiwl h.y. ar ddiwedd semester un.

Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Gwella ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Cynnwys y maes llafur

  • Trosolwg o Ragnodi Annibynnol
  • Egwyddorion sylfaenol therapiwteg ocwlar
  • Trwyddedu, arwyddion, gwrthrybuddion a rhagofalon
  • Gwybodaeth am anatomi a ffisioleg blaen y llygad a’r rhithbilennau
  • Ffarmacoleg ocwlar glinigol
  • Cyffuriau a ddefnyddir wrth drin clefyd blaen y llygad
  • Cyflwyniad i ficrobioleg
  • Cyflwyniad i imiwnoleg ac alergeddau
  • Blepharitis a chyflyrau eraill yr amrannau
  • Llid pilen y llygad heintus
  • Clefyd y llygad alergaidd
  • Keratitis
  • Uveitis
  • Anhwylderau’r haen ddagrau a llygaid sych
  • Trawma i’r cornea
  • Argyfyngau offthalmig a diagnosis gwahaniaethol

Sut caiff y modiwl ei asesu

Byddwch yn cael eich argymell i ymgymryd â gweithgareddau ffurfiannol a gyflwynir ar-lein, a chyflwyno adroddiad achos ffurfiannol i gael adborth cyn yr adroddiad achos crynodol.

  • Prawf ar-lein (65%): Bydd arholiad ysgrifenedig o ddwy awr ar ddiwedd y semester.
  • Adroddiad achos (35%): Bydd myfyrwyr yn cyflwyno adroddiad achos estynedig ar drin cyflwr blaen y llygad.