Ewch i’r prif gynnwys

OPT029: Addysgu, addysg ac asesu clinigol

Mae'r modiwl hwn wedi’i anelu at ymarferwyr sydd â diddordeb mewn addysgu neu oruchwylio clinigol sydd ar lefel israddedig neu ôl-raddedig gan gynnwys cyn cofrestru a lefel arbenigol.

Mae gan y modiwl hwn bwyslais penodol ar y canlynol:

  • datblygu ffyrdd newydd o addysgu
  • cydweithio â chyd-athrawon clinigol
  • addysg israddedig ac ôl-raddedig i ymarferwyr clinigol
  • defnyddio adborth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae'n cael ei gyflwyno a'i asesu ar-lein, gan roi'r cyfle i chi archwilio dulliau ar-lein o ddysgu, asesu a rhyngweithio.

Byddwch yn archwilio theori a chymhwyso dulliau addysgu ac asesu yng nghyd-destun eich proffesiwn clinigol eich hun. Felly, byddai'r modiwl o ddiddordeb i ymarferwyr addysgu clinigol ar draws ystod o broffesiynau clinigol.

Modiwl dysgu o bell yn unig yw hwn, a gofynnir i chi recordio sesiwn addysgu fel rhan o'r asesiad ymarferol ond nid oes elfen ymarferol yn y brifysgol.

Dyddiad dechrauMawrth
Credydau10 credyd
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlMarek Karas (Arweinydd)
Grant Robinson (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT029

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n ymwneud ag addysgu ym maes optometreg ac iechyd gofal yn y DU
  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o addysg ac asesu ym maes gofal iechyd a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun
  • archwilio, dadansoddi'n feirniadol, cyfosod a gwerthuso llenyddiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a chysyniadau mewn addysg a dulliau addysgu i lywio datblygiad ymarfer addysgu
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn gwaith ysgrifenedig.
  • myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso
  • datrys problemau a datblygu argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth a barn gadarn
  • mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu addysgu, a myfyrio arno.

Dull cyflwyno’r modiwl

Dysgir y modiwl hwn drwy 20 podlediad sain a gyflwynir drwy Dysgu Canolog,sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gydag adnoddau a chyfeiriadau ategol sy’n rhan annatod o’r modiwl.

Mae'r podlediadau yn cyflwyno theori addysgu a dysgu fesul cam bach sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r cyfeiriadau a ddarperir. Bydd myfyrwyr yn dewis podlediadau sy'n berthnasol i'w cyd-destun a'u diddordebau addysgu proffesiynol. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn astudio rhwng 10 a 15 podlediad ynghyd ag adnoddau cysylltiedig yn ystod y modiwl.

Mae'r gwaith cwrs y byddwch yn ei gwblhau yn mynd i'r afael â llawer o'r meysydd y bydd eu hangen mewn cais am gymhwyster mewn addysgu - sef theori addysgu, theori asesu a thystiolaeth o addysgu. Mae cyn-fyfyrwyr wedi defnyddio eu gwaith fel sail ar gyfer ceisiadau o'r fath, er enghraifft Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Bydd y darnau o waith cwrs rydych chi'n eu cwblhau yn dechrau ffurfio portffolio o'ch astudiaeth a'ch defnydd o ymarfer addysgu.

Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.

Mae'r modiwl hwn yn cymryd un semester i'w gwblhau.

Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Cynnwys y maes llafur

  • Theori arddulliau dysgu a chymhelliant ar gyfer astudio
  • Theori a thystiolaeth ar gyfer arferion addysgu clinigwyr
  • Cefnogi datblygiad dysgu annibynnol a sgiliau astudio mewn oedolion
  • Creu diwylliant dysgu ac iaith addysgu
  • Arddangos clinigol a goruchwylio clinigol
  • Defnyddio strategaethau dysgu ar sail achosion mewn addysgu clinigol
  • Theori addysgol ac ymchwil i ymarfer asesu
  • Asesu ar sail gwaith
  • Dylunio asesu i hwyluso dysgu mewn ymarfer clinigol
  • Adolygu gan gymheiriaid ac asesu gan gymheiriaid
  • Hunanasesu ac ymarfer myfyriol
  • Myfyrio'n feirniadol ar ddatblygiad personol a phroffesiynol
  • Dulliau o roi adborth effeithiol i fyfyrwyr
  • Dylunio gwahanol ffyrdd o gasglu adborth gan fyfyrwyr a chymheiriaid
  • Myfyrio ar ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus

Dull asesu’r modiwl

Ffurfiannol

Nid oes marc ar gyfer y gwaith hwn. Mae'n orfodol a rhaid ei gwblhau i orffen y modiwl.

Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno i'r grŵp ar un dull o addysgu ynghyd â beirniadaeth ategol â thystiolaeth o'u dewisiadau. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno i weminar grŵp.

Crynodol

  • Gwaith Cwrs Ysgrifenedig (50%): Bydd myfyrwyr yn ychwanegu at eu portffolio myfyriol trwy ymgymryd ag aseiniad ysgrifenedig ar ddulliau asesu a gynlluniwyd i ganiatáu canolbwyntio ar gymhwyso cynnwys y modiwl i addysgu clinigol gwirioneddol neu gynlluniedig y myfyrwyr eu hunain.
  • Asesiad ymarferol (50%): Bydd myfyrwyr yn dangos eu sgiliau ymarferol drwy baratoi a chyflwyno sesiwn addysgu fer y byddant yn ei recordio. Byddant yn casglu adborth gan eu myfyrwyr ac yna gan eu cymheiriaid. Yna byddant yn cyflwyno gwerthusiad o'u sesiwn addysgu fel rhan o ddiwrnod asesu ar-lein ar y cyd.